
Pryder mamau bod pethau ‘ddim yn gwella’ yn Uned Famolaeth Ysbyty Gwynedd
Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi clywed gan famau sy’n pryderu bod diffyg gwelliannau wedi bod yn Uned Famolaeth Ysbyty Gwynedd yn dilyn adroddiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Roedd yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin yn dilyn ymweliad di-rybudd fis Chwefror, yn nodi fod angen gweithredu “ar frys” er mwyn mynd i’r afael â “phryderon am ddiogelwch cleifion” ar uned famolaeth yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd arolygwyr AGIC bod staff yn trin menywod a’u teuluoedd yn garedig ac yn barchus, a hynny mewn amgylchedd glân, ond mae pryderon bod y cyfathrebu rhwng staff yn annigonol er mwyn cynllunio gofal diogel i fenywod a’u plant.
Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu nad yw canran y staff meddygol sydd wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol yn cyrraedd y trothwy lleiaf o 85%.
44% yn unig o staff meddygol oedd wedi cwblhau hyfforddiant i fesur twf babanod.
62% o staff meddygol oedd wedi cwblhau hyfforddiant monitro curiad calon babi, a dim ond 14% ar gynnal bywyd sylfaenol.
Yn ogystal, yn ôl yr adroddiad, mae rhai gweithwyr yn teimlo nad yw eu lles yn flaenoriaeth, a bod lefelau staffio’n gallu teimlo’n anniogel.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod nhw’n croesawu adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac yn falch o’r adborth cadarnhaol am garedigrwydd y staff a’r gefnogaeth i famau. Mae cynllun gwelliant ar waith, ac maen nhw’n parhau i weithio i sicrhau gofal diogel o’r safon uchaf ledled Gogledd Cymru.
‘Dim newid’
Mae Y Byd ar Bedwar wedi siarad â phobol sy'n gweithio yn Uned Famolaeth Ysbyty Gwynedd, soniodd am forál isel yn yr adran, ac a ddywedodd nad ydyn nhw wedi gweld llawer o newidiadau yn y misoedd ers ymweliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae’r rhaglen hefyd wedi siarad â mamau sydd wedi derbyn gofal ers yr ymchwiliad ac yn dweud bod y pryderon gafodd eu codi yn yr adroddiad, gan gynnwys cyfathrebu ymhlith staff, yn parhau.
Rhoddodd Leanne Lovell o Gaernarfon enedigaeth i'w merch Elsi yn Ysbyty Gwynedd fis ar ôl yr arolygiad.

Roedd Leanne wedi mynd 11 diwrnod heibio'r dyddiad geni ac felly wedi mynd mewn i’r ysbyty er mwyn ysgogi’r enedigaeth, ond roedd dryswch a chymysgwch gyda'i nodiadau, a dywedodd fod y staff yn trosglwyddo gwybodaeth meddygol anghywir i’w gilydd.
Cafodd gyfarwyddyd gan un doctor i fynd adref gan bod nodiadau Leanne yn nodi ei bod hi dim ond un diwrnod heibio'r dyddiad geni yn hytrach nag 11.
“Dw’i jyst yn meddwl bob tro, ‘be’ os ‘swn i ‘di mynd adra’? ‘Na’th o jyst ‘neud yr experience yn stressed. Doedd o ddim ‘di ‘neud fi deimlo’n comfortable, yn hapus, nac yn saff," meddai.
“Mae yna fywyda yn hyn i gyd, plant bach. Swn i definitely ddim isho mynd yn ôl i fan’na. O’dd o jyst bach yn flêr, a jyst inconsistent, a o’dd o jyst ddim yn ‘neud fi teimlo fatha o’n i mewn lle saff.”
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae darparu gofal diogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchaf i ni, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf ar draws ein holl wasanaethau mamolaeth. Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â ni’n uniongyrchol fel y gallwn ymchwilio’n drylwyr iddynt a’u cefnogi.
‘Asesiad o wasanaethau mamolaeth’
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers 2023. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles, y bydd hynny yn parhau.
“Roedd yr arolygiad yn dangos bod gwendide ond oedd e hefyd yn dangos bod arfer dda yn Ysbyty Gwynedd o ran cyngor i famau, proffesiynoldeb staff ac ati,” meddai.
Cyhoeddodd hefyd bod cadeirydd annibynnol yn mynd i arwain asesiad o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru.
Bydd yr asesiad yn cael ei gadeirio'n annibynnol a bydd yn ystyried canfyddiadau'r adolygiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled y DU.
Dywedodd Mr Miles wrth raglen y Byd ar Bedwar: “Mae yn peri gofid. Ry’n ni’n gweld mewn gormod o lefydd bod gwendidau yn y system. Beth sy’n bwysig yw bod yr asesiad yng Nghymru yn dangos i ni lle mae angen gweithredu ymhellach, lle ma’ arfer dda, a bod y system yn gallu cal mynediad at y wybodaeth honno.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ‘Etta: Merch fach, methiant mawr’ nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC IPlayer.