Cyn aelod seneddol yn y llys ar gyhuddiad o fod â phasbort ffug
Mae cyn aelod seneddol Ceidwadol wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o fod â phasbort ffug yn ei meddiant tra'n aelod yn Nhŷ'r Cyffredin.
Katie Wallis, Jamie Wallis gynt, 41 oed o Drebiwt, Caerdydd, ac Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024, oedd yr aelod seneddol trawsryweddol cyntaf yn San Steffan yn 2022.
Roedd hi'n cynrychioli ei hun yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd fore Llun.
Chafodd y cyhuddiad ddim ei adrodd yn y llys ond ymddangosodd Katie Wallis mewn achos blaenorol yn llys ynadon y brifddinas ar gyhuddiad o fod â phasbort ffug yn ei meddiant "heb esgus rhesymol."
Mae honiadau fod y ddogfen ym meddiant Ms Wallis yn Ebrill 2022, tra roedd hi yn dal i fod yn aelod seneddol Ceidwadol.
Cafodd yr achos ei ohirio fore Llun, a chafodd Ms Wallis gais gan y barnwr Tracey Lloyd-Clarke, i naill ai gael cynrychiolaeth gyfreithiol, neu i wneud penderfyniad clir ynglŷn â chynrychioli ei hun.
Bydd Katie Wallis yn ymddangos yn y llys eto ar 15 Awst.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad hwnnw.
Llun: George Thompson/PA Wire