Dau golofnydd Cymraeg yn ymuno â Bethan Gwanas a chefnu ar yr Herald
Mae’n ymddangos fod tri o golofnwyr Cymraeg yr Herald bellach wedi rhoi'r gorau i gyfrannu i'r papur.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C yr wythnos diwethaf fe ddywedodd Bethan Gwanas ei bod yn “gandryll” ar ôl i’r Herald Gymraeg wrthod cyhoeddi colofn ganddi am Gaza, a’i bod hi wedi ymddiswyddo o'i rôl, o ganlyniad i hynny.
Ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun, fe gyhoeddodd Bethan Gwanas lun ohoni gydag Angharad Tomos a Paul Williams yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog gan ddweud bod y tri ohonyn nhw bellach wedi ymddiswyddo.
Mae’r awdur a’r cyflwynydd teledu wedi cyfrannu dros fil o golofnau ar gyfer y papur dros gyfnod o 26 mlynedd ers diwedd y 90au.
Dywedodd bod Angharad Tomos wedi cyfrannu i’r papur ers 33 mlynedd tra bod Paul Williams wedi bod yn golofnydd yno am fwy na dwy flynedd.
“3 cholofnydd Cymraeg yr Herald/Daily Post yn cyd-ddathlu neu gyd-alaru y ffaith eu bod wedi rhoi’r gorau iddi wedi blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon,” medd Ms Gwanas.
“Roedd y tri yn hynod siomedig gyda phenderfyniad y golygyddion a Reach PLC i beidio â chyhoeddi colofn Bethan am y sefyllfa ym Mhalesteina ac mae’r tri wedi ymddiswyddo o’r herwydd.
'Safonau golygyddol'
Mae’r Herald Gymraeg bellach yn cael ei gynnwys fel atodiad o fewn y Daily Post bob dydd Mercher.
Mewn datganiad wedi ymddiswyddiad Bethan Gwanas yr wythnos diwethaf, dywedodd golygydd y Daily Post, Alex Hickey bod Bethan Gwanas yn “gyfrannwr hirhoedlog a gwerthfawr” i’r Herald Gymraeg a’r Daily Post.
“Fodd bynnag, ar ôl ystyriaeth ofalus, roedd agweddau penodol ar y golofn hon nad oeddent yn cyd-fynd â'n safonau golygyddol,” meddai.
“Rydym yn croesawu sylwadau ac adrodd trylwyr ar Gaza ac yn gobeithio cynnal deialog gyda'n holl golofnwyr a chyfranwyr ar y ffordd orau o wasanaethu ein cynulleidfaoedd ar y pwnc hwn.”