Angen trawsnewid y diwydiant dŵr yng Nghymru
Mae angen trawsnewid y ffordd y mae'r diwydiant dŵr yn cael ei reoli yng Nghymru, yn ôl adroddiad beirniadol.
Mae’r adroddiad gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn cynnig 88 o argymhellion i Lywodraethau’r DU a Chymru, er mwyn ceisio adfer y diwydiant.
Yr awgrym yw y dylid diddymu’r corff Ofwat, sydd yn goruchwylio’r diwydiant yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, a throsglwyddo cyfrifoldebau rheoleiddio economaidd newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Daw hynny yn sgil 'pryderon' dros allu Ofwat i gydbwyso "anghenion Lloegr ag anghenion Cymru".
Byddai hefyd angen gosod strategaeth newydd ar gyfer Cymru, yn ogystal â system gynllunio genedlaethol annibynnol newydd.
Y bwriad yw annog gwell cydweithrediad rhwng sawl sector, gan gynnwys y diwydiant amaethyddol.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud fod angen sicrhau lefel uwch o wasanaeth i gwsmeriaid cwmnïau dŵr yng Nghymru.
Bydd hefyd angen gosod mesurau i leihau’r defnydd o ddŵr o fewn cartrefi a thu allan i gartrefi yng Nghymru.
Dyma’r adolygiad mwyaf o’r diwydiant ers iddo gael ei breifateiddio, yn sgil pryderon y cyhoedd am lygredd mewn afonydd, biliau cynyddol a thaliadau bonws mawr i benaethiaid.
'Datblygiad sylweddol'
Ar hyn o bryd, dau gwmni dŵr sydd yn gweithredu yng Nghymru, sef Dŵr Cymru, sydd yn gwasanaethu’r mwyafrif o’r wlad, a Hafren Dyfrdwy.
Fe fyddai strategaeth dŵr newydd i Gymru yn gosod "cyfeiriad cenedlaethol cryfach", yn ôl yr adroddiad:
“Wrth adolygu'r diwydiant dŵr ledled Cymru a Lloegr, mae'r Comisiwn wedi cydnabod natur unigryw a nodedig y system ddŵr yng Nghymru.
“Mae gan ddŵr arwyddocâd diwylliannol dwfn yng Nghymru, ac mae'n parhau i fod yn fater sensitif, yn enwedig oherwydd digwyddiadau hanesyddol fel creu cronfa ddŵr Tryweryn.”
"Mae'r Comisiwn wedi clywed pryderon parhaus ynghylch gallu Ofwat i gydbwyso anghenion Lloegr ag anghenion Cymru."
"Mae'r Comisiwn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru, y gellid ei integreiddio i mewn i Gyfoeth Naturiol Cymru. Fel arall, gallai fod yn gorff annibynnol. Byddai hyn yn ddatblygiad sylweddol."
'Un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr'
Yn ymateb i'r adroddiad, fe ddywedodd Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ei fod yn cynnig “cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i wneud y newidiadau sefydliadol sydd eu hangen.
“Mae'r adroddiad yn dangos dealltwriaeth glir o'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau sy'n bwysig i bobl Cymru ac yn adlewyrchu barn y sector yng Nghymru," meddai.
“Rydym wedi ymrwymo i ystyried pob argymhelliad yn ofalus, gan sicrhau bod unrhyw weithredu yn y dyfodol yn cyd-fynd â'n hegwyddorion o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gofio mai dŵr yw un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr.
“Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, rwy'n bwriadu rhoi ar waith argymhelliad y Comisiwn ynghylch rheoleiddiwr economaidd annibynnol ar wahân i Gymru.
“Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i newid y trefniadau a grëwyd cyn datganoli ac mae'n ymwneud â mwy na newid sefydliadol.
“Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cymryd amser i ystyried adroddiad y Comisiwn yn llawn, gan weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r cydweithrediad trawsffiniol sydd ei hangen arnom i wir ddiwygio ein diwydiant dŵr ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.”