Cyhoeddi enw bachgen fu farw mewn gwrthdrawiad bws ysgol
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r bachgen 10 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad bws ysgol yng Ngwlad yr Haf yr wythnos diwethaf.
Bu farw Oliver Price ar ôl i fws ysgol adael ffordd yr A396 yn Cutcombe Hill ger Minehead, gan lithro i lawr llethr 20 troedfedd brynhawn Iau diwethaf.
Roedd y cerbyd yn dychwelyd i Ysgol Ganol Minehead o drip yn Sŵ Exmoor ac yn cludo 60 i 70 o ddisgyblion a staff pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Llun bod y llu yn “gweithio’n ddiflino” er mwyn deall beth achosodd y gwrthdrawiad.
“Mae’n debyg y bydd y gwaith hwn yn cymryd cryn dipyn o amser ac rydym yn gofyn am eich amynedd tra ein bod yn cynnal ymholiadau,” medd Mark Edgington.
“Mae ein meddyliau a chydymdeimladau gyda theulu Oliver yn ystod y cyfnod hwn sydd yn hynod o anodd.
“Fe nawn ni sicrhau ein bod yn parhau i'w diweddaru.”
Cafodd nifer o blant eu rhyddhau o'r ysbyty dros y penwythnos.
Mae dau o blant a thri oedolyn yn parhau yn yr ysbyty, meddai'r llu. Y gred yw eu bod nhw i gyd bellach mewn cyflwr sefydlog.