Penodi Guto Harri i dîm newydd Boris Johnson yn Downing Street

05/02/2022
Guto Harri
Guto Harri

Mae Newyddion S4C ar ddeall y bydd y strategydd a’r arbenigwr cyfathrebu, Guto Harri yn ymuno â thim strategol Boris Johnson, fel cyfarwyddwr cyfathrebu.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Cymro weithio i Johnson, gan ei fod wedi gweithio iddo fel pennaeth cyfathrebu pan oedd yn Faer Llundain rhwng 2008-2012.

Mae Johnson wedi wynebu cyfnod cythryblus yn ddiweddar, wrth i’r byd gwleidyddol ymateb i’r ffaith fod nifer o bartïon honedig wedi’u cynnal yn Rhif 10 Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Bu Guto Harri hefyd yn gorfod delio ag argyfwng pan yn gweithio i News International yn ystod y sgandal hacio ffonau.

Mae Guto Harri wedi bod yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar raglenni gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi cyflwyno rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C ers 2018, ac roedd yn un o gyflwynwyr gwreiddiol sianel newyddion GB News, cyn iddo adael yn dilyn ffrae wedi iddo benlinio ar ei raglen, symbol o'r mudiad gwrth-hiliaeth Black Lives Matter.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.