
Treth etifeddiaeth yn creu 'pwysau sylweddol' ar y genhedlaeth nesaf
Mae ffarmwr o Wynedd wedi dweud mai’r “genhedlaeth nesaf” fydd yn dioddef yn sgil newidiadau i dreth etifeddiaeth.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Emlyn Roberts, 58 oed, o Fferm Esgair Gawr yn Rhydymain, ger Dolgellau ei fod yn pryderu am y straen y gallai’r holl gyfrifoldeb gael ar ei blant.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol sy'n werth dros £1 miliwn.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud na fydd y mwyafrif o ffermydd yn cael eu heffeithio gan na fydd yn rhaid i dri chwarter ohonynt dalu “unrhyw dreth o gwbl.”
Ond mewn llythyr at y Prif Weinidog Syr Keir Starmer, mae Llywydd Undeb yr NFU, Aled Jones, wedi dweud bod miloedd o ffermwyr yn wynebu 'straen anferthol' wrth geisio ymdopi â'r newidiadau.
Mae Emlyn Roberts yn dweud ei fod wedi dechrau paratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.
Mae’n dweud ei fod o ac amaethwyr eraill wedi gorfod diogelu dyfodol eu ffermydd drwy rannu rhai o'u hasedau gyda'u plant “yn barod.”

“Mae’r rhieni a ninnau wedi cymryd camau i liniaru effeithiau posib y ddeddf fel petai,” esboniodd.
“Fyddan ni – y fi a’r wraig, yn trosglwyddo pethau i’r genhedlaeth nesaf,” meddai.
“A mae hwnna’n gyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau nhw hefyd, bo nhw’n gyfrifol neu’n berchen ar asedau yn eu 20au cynnar, adeg pan maen nhw’n fod i jest mwynhau bywyd.”
Ychwanegodd: “Mae’n gallu rhoi pwysau eitha sylweddol ar ysgwyddau rhywun.
“Achos i’r raddau, dydy o ddim yn mynd i effeithio gymaint â hynny arna i’n bersonol, ond y genhedlaeth nesa fydd yn diodda’.”
'Digon i fod yn andwyol'
Mae teulu Mr Roberts wedi bod yn berchen ar Fferm Esgair Gawr ers 1984.
Oni bai ei fod yn trosglwyddo ei asedau i’w blant cyn i’r newidiadau i dreth etifeddiant ddod i rym, mae’n dweud y gallai ei blant gael eu taro gyda threth all ddod a’r busnes i ben.
“Os fysa rhywbeth yn digwydd i ni ar ôl Ebrill 2026 a bod ni heb gymryd camau i liniaru pethau, mi allai’r plant orfod talu symiau sylweddol ‘de.
“Mae’n ddigon i fod yn andwyol i fusnes y ffarm, fel ag y mae o rŵan.”
'Problem enfawr'
Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw’n disgwyl mai’r 500 o ffermydd cyfoethocaf y wlad fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Ond wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, gwadu hynny wnaeth yr arbenigwraig amaethyddol Awel Hughes, o gwmni Agri Advisor.
“O be da ni’n weld yma fel cwmni yng Nghymru wledig, di hynny ddim yn wir,” meddai.
“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr sy’n dod trwy’r drws, mae ganddyn nhw broblem treth enfawr.”
Yn ei lythyr i Lywodraeth San Steffan, dywedodd Aled Jones, Llywydd NFU Cymru: "Rwy'n pryderu y bydd nifer y busnesau fferm a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid polisi hwn yn llawer mwy na sydd yn cael ei grybwyll gan ragolygon y Trysorlys.
"Yr hyn sy'n fy mhoeni fwy nag unrhyw beth yw nifer fawr y ffermwyr oedrannus sydd, ar ôl gweithio'n galed drwy gydol eu hoes, bellach yn poeni y bydd eu marwolaeth yn creu baich ariannol ychwanegol i'w hanwyliaid sydd y tu hwnt i'w rheolaeth."
Y dreth yn 'hanfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae ein hymrwymiad i ffermio a diogelwch bwyd yn gadarn, a dyna pam rydym wedi clustnodi £11.8 biliwn, sef y swm uchaf erioed, i ffermio cynaliadwy a chynhyrchu bwyd yn ystod tymor y senedd hon.
"Rydym hefyd wedi penodi cyn-lywydd yr NFU, y Farwnes Minette Batters, i argymell diwygiadau newydd i hybu elw ffermwyr.
“Mae ein diwygiadau i’r polisi Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes yn hanfodol i drwsio’r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.
"Bydd tri chwarter o ystadau yn parhau i beidio â thalu treth etifeddiaeth o gwbl, tra bydd y chwarter sy’n weddill yn talu hanner y dreth etifeddiaeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu, a gellir lledaenu taliadau dros 10 mlynedd, heb log.”