Yr AS Laura Anne Jones yn ymuno â Reform UK
Yr AS Laura Anne Jones yn ymuno â Reform UK
Mae Aelod o Senedd Cymru, Laura Anne Jones wedi cyhoeddi ei bod yn ymuno â phlaid Reform UK.
Mae Ms Jones yn Aelod o'r Senedd ym mae Caerdydd ar hyn o bryd, ac roedd yn cynrychioli'r Ceidwadwyr ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru.
Ms Jones yw aelod cyntaf Reform UK yn Senedd Cymru.
Cafodd hynny ei gyhoeddi gan arweinydd Reform UK, Nigel Farage ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd amser cinio ddydd Mawrth.
Wedi'r cyhoeddiad, eglurodd Laura Anne Jones iddi fod yn aelod o'r Blaid Geidwadol ers 31 mlynedd ond ei bod hi "prin yn adnabod y blaid erbyn hyn". Dywedodd fod Nigel Farage yn "ddyn gwych" a bod Reform UK yn gallu "mynd â Chymru ymlaen i le gwych".
"Mae ffermwyr yn cael eu brifo, pensiynwyr yn cael eu brifo, pobl fregus yn cael eu brifo, ac ni allwn ganiatáu i hyn barhau," meddai.
"Mae Cymru angen Reform, ac rwy'n teimlo nawr, o'r diwedd y gallaf fod yn rhan o'r datrysiad, nid y broblem."
Fe gafodd ymchwiliad ei gynnal i honiad o dwyll yn ymwneud â threuliau yn erbyn Laura Anne Jones y llynedd, ac fe gafodd y mater ei gyfeirio at yr heddlu gan Gomisiynydd y Senedd, Douglas Bain.
Ond ym mis Rhagfyr 2024, fe ddywedodd yr heddlu eu bod yn cau'r ymchwiliad. Roedd Ms Jones wastad wedi gwadu unrhyw honiad o dwyll yn ei herbyn.
Apêl am ymgeiswyr o fyd amaeth
Ar ôl cyhoeddi bod Laura Anne Jones yn ymuno â'i blaid, aeth Nigel Farage ymlaen i annog ffermwyr ac arweinwyr y diwydiant amaeth i sefyll dros ei blaid yn etholiad y Senedd.
"Rwyf yn gwneud un addewid," meddai.
"Rhwng nawr a Mai nesaf, byddwn yn sicrhau fod ffermwyr Cymru yn cymryd rhan uniongyrchol wrth lunio'r polisi cywir
"Mae gormod o sefyllfaoedd mewn gwleidyddiaeth, boed hynny ar lefel Llywodraeth Cymru neu ar lefel San Steffan, lle mae gan wleidyddion wybodaeth gyfyng iawn am bynciau.
"Felly rydym eisiau mewnbwn mawr gan ffermwyr Cymru, ac rydw i wedi apelio y bore ma i nifer o bobl, rydym ni eisiau lleisiau ffermio Cymreig, y rhai sydd yn rhan ganolog o ffermio i gynnig eu hunain i fod ar ein rhestr o 96 ymgeisydd." (yn Senedd Cymru)
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1947627685569827259
'Siomedig'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i'r cyhoeddiad bod Laura Anne Jones wedi eu gadael ac ymuno â Reform.
Dywedodd Arweinydd y blaid yng Nghymru, Darren Millar AS bod penderfyniad Ms Jones yn un "siomedig"
"Bydd aelodau'r Blaid Geidwadol ac etholwyr yn ne ddwyrain Cymru wedi siomi hefyd o glywed ei chyhoeddiad," meddai.
"Ond dyw'r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn mynd i ganiatáu i hyn dynnu'n sylw oddi ar ein hymgyrch i daflu Llafur allan a thrwsio Cymru.
"Yn y cyfamser, rydym yn dymuno'r gorau i Laura yn ei phlaid trethi a gwariant uchel newydd."
Mae gweddill y pleidiau yn Senedd Cymru hefyd wedi ymateb i'r cyhoeddiad.
Dywedodd Llafur Cymru: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn brawf pellach mai'r Torïaid yw Reform mewn gwirionedd. Does yr un o'r ddwy blaid yn poeni am bobl Cymru"
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Dyma Geidwadwr arall sy’n gwybod bod yr ysgrifen ar y wal ar gyfer rhagolygon eu plaid fis Mai nesaf.
"Nid yw ein senedd genedlaethol yn fan chwarae i’r rhai sydd eisiau rhoi Cymru ar lwybr o lanast."
Ac yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol David Chadwick, mae'r Ceidwadwyr wedi colli unrhyw rym gwleidyddol yng Nghymru
“Gadewch i ni fod yn glir. Does gan Reform ddim atebion ar gyfer Cymru, dim ond mwy o sŵn a rhaniadau," meddai.