Cyn-chwaraewr Cymru, Joey Jones wedi marw yn 70 oed
Mae cyn-chwaraewr Cymru a Wrecsam, Joey Jones wedi marw yn 70 oed.
Yn amddiffynnwr roedd Jones wedi chwarae dros 500 o gemau i glybiau Wrecsam, Chelsea, Lerpwl a Huddersfield, yn ogystal â 72 o gemau dros Gymru.
Chwaraeodd rhan hollbwysig wrth i Lerpwl ennill y gynghrair a Chwpan Ewrop yn 1977, ac fe ddaeth y Cymro cyntaf i ennill y gwpan Ewropeaidd.
Wedi iddo ymddeol o chwarae fe wnaeth ymuno â thîm hyfforddi Wrecsam, cyn cael ei benodi'n hyfforddwr am gyfnod yn 2001 wedi i Brian Flynn adael y clwb.
Camodd yn ôl o'i gyfrifoldebau gyda'r clwb yn 2017, cyn ei benodiad fel Llysgennad Tîm Ieuenctid Wrecsam ym mis Medi 2021. Yno roedd yn arsylwi timoedd ieuenctid Wrecsam.
O Landudno i Anfield
Wedi ei eni yn Llandudno, fe ymunodd Jones gyda Wrecsam yn y 70au cynnar, cyn chwarae i'r tîm cyntaf pan yn 17 oed yn 1973.
Chwaraeodd 98 o gemau i'r clwb, gan gynnwys rownd yr wyth olaf yng Nghwpan yr FA, y tro cyntaf i Wrecsam gyrraedd y rownd honno.
Symudodd i Lerpwl yn 1975, y clwb yr oedd yn cefnogi fel plentyn. Dyma lle profodd Jones lwyddiant mawr yn ystod ei yrfa.
Er i Lerpwl ennill y gynghrair yn 1976, nid oedd Jones wedi chwarae digon o gemau er mwyn derbyn medal.
Ond newidiodd hynny yn 1977 wedi i'r clwb ennill y gynghrair a Chwpan Ewrop, a bu bron iddynt ennill Cwpan yr FA hefyd.
Dychwelyd i Gymru
Wedi iddo chwarae 100 o gemau i Lerpwl fe ddychwelodd Jones i Gymru a Wrecsam yn 1978 am ffi 0 £210,000 - y mwyaf roedd Wrecsam erioed wedi talu am chwaraewr tan iddynt arwyddo Ollie Palmer yn 2022.
Treuliodd bedair blynedd gyda Wrecsam y tro hwn, gan chwarae dros 150 o gemau a sgorio chwech o goliau.
Yn 1982 symudodd i Chelsea am £34,000. Nid oedd gêm gyntaf Jones yn un i'w chofio wedi iddo dderbyn carden goch, ond fe ddaeth yn arwr ymysg y cefnogwyr wedi iddynt ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Arhosodd gyda'r clwb am y tymor yn y gynghrair, cyn cael ei werthu i Huddersfield am £35,000.
Ymunodd gyda'r clwb pan oeddynt yn y drydedd haen. Enillodd chwaraewr y flwyddyn yno gan helpu'r clwb i gael dyrchafiad i'r ail haen.
Tri chynnig i Gymro
Fe ddaeth yn ôl i Wrecsam am y trydydd tro yn 1987, a dyna lle arhosodd cyn iddo ymddeol yn 1992.
Yn ystod ei yrfa chwaraeodd 72 o gemau i Gymru, gan sgorio un gôl yn unig.
Yn y cyfnod hwn, roedd wedi bod yn rhan o dimau wnaeth guro Lloegr ar dri achlysur, gan gynnwys y fuddugoliaeth enwog 4-1 ar y Cae Ras yn 1980.
Wrth siarad gyda'r Wrexham Leader yn 2020, dywedodd bod dim angen cymhelliant i chwarae yn erbyn yr hen elyn.
"Roedd Lloegr yn gwneud yn siŵr bod chi'n gwybod bod nhw'n well na phawb arall.
"Nid oedd un chwaraewr Cymru angen cymhelliant ar gyfer y gemau hynny achos roeddet ti'n chwarae dros dy wlad ond roedd hi'n golygu mwy gan mai Lloegr oedd hi."
Sgoriodd ei unig gôl dros Gymru mewn gêm gyfartal 4-4 yn erbyn Yugoslafia yn 1982.
Roedd yn gapten i Gymru bump o weithiau, gan gynnwys ei gêm olaf yn erbyn Canada yn 1986.