Teyrnged teulu i 'ddioddefwraig ddiniwed' a gafodd ei lladd yn ei chartref

Lisa Fraser

Mae teulu dynes oedd yn "ddioddefwraig ddiniwed" wedi rhoi teyrnged iddi ar ddiwedd cwest i'w marwolaeth.

Cafwyd hyd i Lisa Fraser gyda nifer o anafiadau i'w gwddf ar ôl i Matthew Harris fynd i mewn i'w thŷ yn Noc Penfro, Sir Benfro ym mis Mai 2022.

Roedd Harris, 41 oed, yn dioddef o ddibyniaeth ar gyffuriau ond nid oedd ganddo ddiagnosis iechyd meddwl ffurfiol.

Yn y gwrandawiad yn Hwlffordd, dywedodd y Crwner Cynorthwyol Paul Bennett nad oedd gan Mrs Fraser unrhyw gysylltiad â'r ymosodwr, a oedd wedi "ymddwyn yn afreolaidd" yn y digwyddiad.

Pan gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth, difrod troseddol, bygythiadau i ladd a lladrad ar 15 Mai 2025, dywedodd wrth yr heddlu: "Rwy'n wallgof ac angen help."

Cafodd Harris ei gadw yn y ddalfa yng Ngharchar EM Abertawe, cyn cael ei drosglwyddo i garchar Long Lartin, Sir Caerwrangon.

Ar 27 Mai 2022, ceisiodd ladd ei hun a bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach mewn ysbyty lleol.

Image
Lisa Fraser

Ar ddiwedd cwest i farwolaeth Lisa Fraser, fe benderfynodd y crwner ei bod wedi marw drwy ladd anghyfreithlon.

Mae teulu’r ddynes 52 oed wedi rhoi teyrnged iddi: “Rydych chi’n clywed yr enw ac yn meddwl am y ddynes a gafodd ei llofruddio. Ond, i ni roedd hi’n gymaint mwy na hynny, gwraig, mam, ffrind gorau, y glud a’n cadwodd ni i gyd yn ddiogel.

“Nid yn unig yr hyn a ddarllenwch chi o straeon arswyd oedd y weithred erchyll hon, a ddigwyddodd ar 13 Mai 2022, ond fe ddigwyddodd hyn i’n mam hardd! Y person mwyaf diniwed, gofalgar a chariadus y byddech chi erioed wedi dod ar ei thraws.

“Mae ein bywydau wedi newid am byth hebddi hi, ac nid yw amser yn yn helpu hynny, rydym yn ceisio parhau gyda'n bywydau oherwydd ni fyddai hi eisiau i ni ddioddef, na pheidio mwynhau bywyd i’r eithaf.

“Nid yw hi’n haeddu cael ei chofio fel y fenyw a gafodd ei llofruddio, ond y fenyw a garwyd, a drysorwyd, a’i haddoli gan bawb oedd yn ei hadnabod."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.