Reform UK yn addo adeiladu rhagor o feddygfeydd ar draws Cymru

Laura Anne Jones

Mae Reform UK wedi addo adeiladu rhagor o feddygfeydd ar draws Cymru os ydyn nhw’n ennill etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf.

Wrth siarad yng nghynhandledd y blaid dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru Laura Anne Jones eu bod nhw’n bwriadu “dechrau'r cynllun mwyaf uchelgeisiol ar gyfer adeiladu meddygfeydd teulu ers i Aneurin Bevan sefydlu’r GIG.”

Y nod oedd “ail-adeiladu'r GIG fel y gall pob teulu gael mynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnynt,” meddai.

Ychwanegodd bod ei phlaid hefyd yn erbyn ehangu y Senedd i 96 aelod o’r 60 presennol, er y bydd y newid hwnnw eisoes wedi digwydd erbyn yr etholiadau y flwyddyn nesaf.

“Gadewch i mi wneud hyn yn gwbl glir, rydym yn erbyn 36 o wleidyddion yn rhagor yn y Senedd,” meddai.

“Mae angen i ni geisio gwneud i'r Senedd weithio er lles pobl Cymru. Ond os na fydd, mae angen i ni gwestiynu a yw’r Senedd yn ychwanegu gwerth at Gymru mewn gwirionedd.”

Fe fyddai’r blaid yn cefnu ar y terfyn cyflymder 20mya yn ardaloedd trefol Cymru, meddai.

Awgrymodd hefyd y byddai Reform yn ail-wampio addysg yng Nghymru gan atal “croesgad ideolegol” gan Lafur a Phlaid Cymru.

“Mae'n anghywir, mae'n beryglus, ac mae angen iddo stopio,” meddai.

‘Argyfwng’

Yn gynharach dywedodd Nigel Farage wrth y gynhadledd y dylen nhw ddisgwyl Etholiad Cyffredinol yn y ddwy flynedd nesaf.

Dywedwyd wrth y gynulleidfa yn Birmingham y byddai Reform UK yn atal cychod bach rhag cyrraedd y DU o fewn pythefnos, pe bai Mr Farage yn ennill etholiad.

Aeth ar y llwyfan yn gynharach na'r disgwyl, funudau ar ôl i'r gwleidydd Llafur Angela Rayner ymddiswyddo o'i swydd fel dirprwy brif weinidog.

Dywedodd fod Llywodraeth y DU bellach "mewn argyfwng".

“Rydym wedi arfer clywed straeon am rwygiadau yn y Blaid Geidwadol,” meddai. 

“Rydym ar fin gweld rhwyg mawr yn y Blaid Lafur hefyd.”

Ychwanegodd: “Mae ganddyn nhw well siawns o gael eu hail-ethol o dan [Jeremy] Corbyn, nag sydd ganddyn nhw o dan Syr Keir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.