Angela Rayner wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth yn dilyn sgandal treth stamp
Mae dirprwy brif weinidog y DU, Angela Rayner, wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth yn dilyn sgandal am dreth stamp.
Fe ddaw'r newyddion ar ddiwedd wythnos gythryblus iddi, ac ar ôl i ymchwiliad ddyfarnu ei bod wedi torri rheolau yn ymwneud â safonau gweinidogol ar ôl cyfaddef iddi beidio â thalu digon o dreth stamp ar eiddo.
Fe wnaeth hi arbed £40,000 mewn treth stamp wrth brynu fflat yn Hove, de Lloegr, oherwydd iddi dynnu ei henw oddi ar weithredoedd ei chartref teuluol yn ei hetholaeth yn Ashton-under-Lyne ger Manceinion.
Dywedodd Ms Rayner wrth y Prif Weinidog mewn llythyr ddydd Gwener ei bod yn “difaru’n fawr” ei phenderfyniad i beidio â cheisio cyngor treth arbenigol ychwanegol – gan ychwanegu ei bod yn cymryd “cyfrifoldeb llawn" am y camgymeriad.
Dywedodd Syr Keir Starmer wrthi y bydd yn “parhau i fod yn ffigwr pwysig yn ein plaid” ac yn “parhau i ymladd dros yr achosion rydych chi mor angerddol amdanynt” yn dilyn ei hymddiswyddiad.
Roedd Ms Rayner wedi dweud iddi weithredu ar faterion y dreth stamp ar ôl derbyn cyngor gan gwmni cyfreithiol o Sussex, o’r enw Verrico and Associates.
Ond gwadu hynny wnaeth y cwmni, gan ddweud nad yw eu cyfreithwyr “erioed” wedi rhoi cyngor i Ms Rayner.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Joanna Verrico: “Nid ydym yn gymwys i roi cyngor ar faterion ymddiriedolaeth a threthi ac rydym yn cynghori cleientiaid i ganfod cyngor arbenigol ar y rhain.”
Dywedodd sylfaenydd y cwmni eu bod wedi cwblhau’r ffurflen dreth stamp “yn seiliedig ar y ffigyrau a'r wybodaeth a ddarparwyd gan Ms Rayner”.
“Rydym yn credu ein bod wedi gwneud popeth yn gywir ac yn ddidwyll. Roedd popeth yn union fel y dylai fod.
“Mae’n debyg ein bod yn cael bai ar gam am hyn i gyd, ac mae gen i’r saethau yn sownd yn fy nghefn i ddangos hynny.”
'Cymhleth'
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Ms Rayner fod y "trefniant byw yn un cymhleth" gan bod ei chartref cyntaf wedi ei werthu i ymddiriedolaeth ar ôl ei hysgariad, er mwyn darparu sefydlogrwydd ar gyfer ei mab anabl sydd yn ei arddegau.
Eglurodd bod y mater wedi ei gadw’n gyfrinachol er mwyn gwarchod ei mab, ond iddi wneud cais i'r llys ddoe i godi'r gwaharddiad cyfrinachedd, er mwyn bod yn "dryloyw."
“Mae e’n fregus, mae ganddo gyflwr gydol oes sydd wedi newid ei fywyd, a dydw i ddim eisiau iddo fe, nac unrhyw elfen o’i fywyd fod yn destun y lefel hwn o graffu," meddai.
Fe ychwanegodd: “Rwy’n difaru’n fawr am y camgymeriad a wnaed. Rwyf wedi ymrwymo i ddatrys y mater hwn yn llawn a darparu'r tryloywder y mae gwasanaeth cyhoeddus yn ei fynnu.
“Am y rheswm hwnnw rwyf heddiw wedi cyfeirio fy hun at y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol, a byddaf yn rhoi fy nghydweithrediad llawn iddo a mynediad iddo at yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno."