Achub 21 o badlfyrddwyr aeth i drafferthion yn y môr yng Ngheredigion

Aberporth / RNLI

Fe wnaeth achubwyr bywyd y Bad Achub achub 21 o bobl a aeth mewn i drafferthion yn Aberporth yng Ngheredigion dros Ŵyl y Banc ddiwedd Awst.

Er y tywydd braf, fe wnaeth gwyntoedd cryfion oddi ar yr arfordir olygu fod y padlfyrddwyr mewn perygl o gael eu gwthio i'r môr.

Roedd y 21 person a gafodd eu hachub yn defnyddio padlfyrddau, ac fe aethon nhw i drafferthion ar ôl peidio gallu dychwelyd i'r lan yn sgil gwyntoedd cryfion. 

Cyhoeddodd y Bad Achub nad yw eu hachubwyr bywyd yn goruchwylio traethau Ceredigion o 31 Awst ymlaen, ac maen nhw bellach yn awyddus i roi cyngor i'r cyhoedd wrth i fisoedd yr hydref a'r gaeaf agosáu. 

Dywedodd Samuel Trevor, Prif Oruchwyliwr Achub Bywydau Ceredigion: "Ein prif flaenoriaeth fel achubwyr bywyd ydy cadw pobl yn ddiogel trwy roi cyngor iddyn nhw. Rydym yn gwneud ein gorau i siarad â phawb, ond pan fydd y traethau’n brysur mae’n amhosibl cael sgwrs â phob unigolyn neu grŵp.

"Rydym yn cynghori unrhyw un sy'n bwriadu mynd ar badlfwrdd i wirio'r rhagolygon bob tro ac edrych am fflagiau ar y traeth sy'n nodi pa gyfeiriad mae'r gwynt yn chwythu.

"Os ydy'r gwynt yn chwythu i ffwrdd o'r tir, peidiwch â chymryd y risg."

Ychwanegodd yr Arweinydd Diogelwch Dŵr, Chris Cousens: "Wrth i'r tymor ddod i ben ar gyfer achubwyr bywyd yr RNLI yng Nghymru, rydym yn gofyn i bobl barhau i gymryd gofal a gwybod sut i aros yn ddiogel.

"Pan fyddwch chi’n ymweld â thraeth y tu allan i dymor yr achubwyr bywyd, rydym yn argymell mynd i’r dŵr gyda rhywun arall - mae cael rhywun gyda chi yn golygu y gallant eich helpu chi neu gael cymorth mewn argyfwng."

Ychwanegodd Mr Cousens: "Wrth i ni fynd ymhellach i mewn i fisoedd y gaeaf a thymheredd y dŵr yn parhau i ostwng, ewch i mewn i’r dŵr yn araf i addasu i’r tymheredd ac osgoi sioc dŵr oer. Bydd gwisgo siwt wlyb yn eich cadw’n gynhesach. 

"Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n aros yn y dŵr am ormod o amser a bod gennych chi ffordd o gynhesu wedyn."

Llun: RNLI / Anya Walton

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.