Ymchwiliad wedi honiadau bod chwaraewyr rygbi Dan 20 Cymru wedi 'camymddwyn' yn yr Eidal
Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnal ymchwiliad wedi i adroddiad mewn papur newydd yn yr Eidal gyhuddo chwaraewyr tîm Dan 20 Cymru “o ymddwyn yn feddw” ac achosi gwerth “miloedd o ewros o ddifrod”.
Mae’r adroddiad ym mhapur Il Gazzettino hefyd yn cyhuddo chwaraewyr o “amharu ar gyngerdd" oedd yn hybu heddwch a pharch yn ninas Rovigo. Dyma lle'r oedd y tîm wedi bod yn chwarae ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd.
Ychydig oriau ar ôl i’r tîm golli eu gêm olaf o’r gystadleuaeth ddydd Sadwrn yn erbyn Yr Eidal, roedd aelodau’r garfan wedi eu gweld yn “camymddwyn” ac yn “feddw” yng nghanol y ddinas.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod yn ymwybodol o’r adroddiadau ac yn “ymchwilio’r mater”.
'Amharu'
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth chwaraewyr “amharu” ar ŵyl Voices of Freedom, oedd yn cael ei chynnal yn y ddinas.
Cafodd cwynion hefyd eu gwneud am ymddygiad gwael gan chwaraewyr yn Piazza Vittorio Emanuele II, gyda honiadau bod rhai yn gweiddi yn uchel, yn pasio dŵr ar waliau a throi arwyddion a dodrefn bwytai a thafarndai ben i waered.
Mewn lleoliad arall, mae'r papur newydd yn dweud fod un o’r chwaraewyr wedi neidio ar lwyfan a thorri ar draws perfformiad gan fand Suspension of Judgement.
Roedd yn rhaid i gyflwynydd y digwyddiad ac aelodau’r dorf erfyn arno i adael y llwyfan. Fe wnaeth yr heddlu geisio dod â’r sefyllfa dan reolaeth ond wnaethon nhw ddim llwyddo i wneud hynny.
Difrod mewn gwesty
Mewn gwesty yn y ddinas, fe wnaeth rheolwyr gadarnhau wrth Il Gazzettino bod dodrefn a rhai eitemau wedi eu torri neu eu symud.
Cafodd drysau eu torri yn y gwesty, gan achosi “rhai miloedd o Ewros o ddifrod” a gorfodi i staff y gwesty i roi cerydd i’r chwaraewyr.
Ni chafodd cwyn swyddogol ei wneud i’r heddlu ar y pryd.
Mae'r papur newydd yn dweud bod swyddogion y ddinas wedi mynegi eu hanfodlonrwydd â’r camymddygiad, “yn enwedig gan ei fod wedi dod yn ystod digwyddiad sydd yn hyrwyddo parch, trafodaeth a chynhwysiant”.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn ymwybodol o’r adroddiadau ac yn ymchwilio i’r mater.
“Byddwn yn ymateb yn y modd priodol pan fydd holl ffeithiau’r sefyllfa wedi’u sefydlu.”