Codi dros £30,000 ar gyfer adfer eglwys yng Ngheredigion
Mae dros £30,000 wedi ei gasglu er mwyn adfer eglwys yng Ngheredigion.
Cafodd Eglwys y Grog ym Mwnt, Aberteifi ei ddifrodi ddwywaith yn ystod mis Rhagfyr.
Cafodd targed gwreiddiol o £20,000 ei osod i godi arian ar gyfer atgyweirio'r eglwys wedi'r difrod.
Mae'r ymgyrch wedi denu sylw byd-eang wrth i roddion cael eu gwneud o leoliadau cyn belled ag Awstralia.
Mae Eglwys y Grog wedi'i lleoli ger y clogwyni ym Mwnt ac yn lleoliad poblogaidd ymhlith ymwelwyr â'r ardal yn ogystal â bod yn rhan bwysig o'r gymuned leol.
Cafodd yr eglwys ei fandaleiddio yn gyntaf ar 2 Rhagfyr, cyn cael ei difrodi am eildro ar 20 Rhagfyr.
Mae aelodau eglwys yng Ngheredigion wedi diolch am yr ymateb "gwyrthiol" i'w hymgyrch i godi arian.