Newyddion S4C

Aelodau eglwys ym Mwnt yn diolch am ymateb 'gwyrthiol' wrth godi dros £25,000

Newyddion S4C 05/01/2022

Aelodau eglwys ym Mwnt yn diolch am ymateb 'gwyrthiol' wrth godi dros £25,000

Mae aelodau eglwys yng Ngheredigion wedi diolch am yr ymateb "gwyrthiol" i'w hymgyrch i godi arian wedi i'r adeilad gael ei fandaleiddio dros y Nadolig. 

Cafodd Eglwys y Grog ym Mwnt ei difrodi ddwywaith ym mis Rhagfyr gan arwain at alwad gan aelodau yn gofyn am roddion i adfer yr adeilad. 

Mae'r ymgyrch wedi codi dros £25,000 mewn llai nag wythnos wedi iddo gael ei rannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol. 

Dywedodd y cynghorydd lleol, Clive Davies, a ddechreuodd yr ymgyrch ei fod wedi'i "synnu" gan yr ymateb. 

'O'n i 'di torri calon'

Mae Eglwys y Grog wedi'i lleoli ger y clogwyni ym Mwnt ac yn lleoliad poblogaidd ymhlith ymwelwyr â'r ardal yn ogystal â bod yn rhan bwysig o'r gymuned leol. 

Cafodd yr eglwys ei fandaleiddio yn gyntaf ar 2 Rhagfyr, cyn cael ei difrodi unwaith eto ar 20 Rhagfyr. 

Image
Mwnt
Cafodd yr eglwys ei difrodi dros nos dwywaith ym mis Rhagfyr

"Mae rhan fwya' o'r ffenestri wedi cael eu torri," meddai Clive Davies. 

"Tu fewn wedyn mae'r dŵr wedi lledu mewn ac wedi briwo'r lloriau.

"Tu allan wedyn oedd 'na problems wedi digwydd, rhywun wedi torri'r walydd wrth fynd mewn, a'r giât."

Dywedodd Maggie Hughes, aelod o'r eglwys, ei bod wedi'i synnu o weld y difrod. 

"Amser des i i weld yr eglwys, y tro cynta' llefes i, ond yr ail dro o'n i 'di torri calon," meddai. 

Ymateb byd eang

Dechreuodd Mr Davies yr ymgyrch i godi arian i drwsio'r difrod ar ddydd Sul, gan osod targed o £20,000.

Ers hynny, mae'r ymgyrch wedi denu sylw byd-eang wrth i roddion cael eu gwneud o gyn belled ag Awstralia. 

Image
Mwnt
Cafodd yr adeilad ei difrodi tu mewn a thu allan

O fewn dyddiau roedd yr ymgyrch wedi cyrraedd ei tharged, ac mae pobl yn parhau i gyfrannu. 

Dywedodd Mr Davies ei fod wedi'i "synnu" gan yr ymateb. 

"Galwad ffôn ar y pnawn dydd Sadwrn wrth Maggie ac erbyn pnawn Llun oedd £20,000 'da ni o'r ymgyrch," meddai. 

"O'dd e'n wyrthiol. Byd eang yr ymateb. Dros nos o'dd miloedd yn dod mewn."

Y gobaith yw defnyddio'r arian i adfer yr eglwys a'i diogelu ar gyfer y dyfodol. 

Ychwanegodd Maggie Hughes bod rhaid cadw'r eglwys yn agored i bawb, er gwaethaf y difrod. 

"Mae yn bwysig bod ni yn cadw'r drws ar agor achos ma' bobl yn dod, fel i ni'n gwybod, o ledled y byd i weld yr eglwys," meddai.

"Fi'n meddwl bydd e'n drist ofnadwy bod y drws ar gau i nhw.

"Fel o'dd un o'n cyn ficeriaid ni'n gweud, mae'r lein denau man hyn rhyngt nefoedd a daear. A chi'n gallu teimlo fe'n bendant yn y Mwnt. Mae fe'n unigryw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.