Storm eira yn effeithio ar filoedd o hediadau yn Efrog Newydd

eira efrog newydd.jpg

Mae storm eira wedi effeithio ar filoedd o hediadau yn Efrog Newydd a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau ar un o'r penwythnosau teithio prysuraf o'r flwyddyn. 

Fe gafodd 4.3 modfedd o eira ei gofnodi yn Central Park yn y ddinas, sef yr uchaf ers mis Ionawr 2022, ac fe gafodd hyd at 7.5 modfedd o eira ei gofnodi mewn rhannau eraill o'r dalaith.

Fe wnaeth Llywodraethwr Efrog Newydd Kathy Hochul ddatgan argyfwng mewn mwy na hanner o'r siroedd yn y dalaith.

Fe gafodd mwy na 900 o hediadau eu canslo ddydd Sadwrn, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn ardal Efrog Newydd, ac fe gafodd mwy na 8,000 eu gohirio yn genedlaethol.

Roedd y gwaethaf o'r storm drosodd erbyn fore Sadwrn, ond roedd tymereddau yn parhau yn oer iawn ac amodau ffyrdd yn beryglus. 

Mae Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NWS) wedi rhybuddio y gallai eira sy'n toddi arwain at rew du yn ffurfio ar ffyrdd a phontydd. 

Ar ochr arall y wlad, mae talaith Califfornia yn profi stormydd glaw, gydag o leiaf tri o bobl wedi marw yn sgil llifogydd dros gyfnod y Nadolig.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.