Ysgol Abersoch yn cau er gwaethaf pryderon
Fe fydd Ysgol Abersoch yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Mercher.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet Cyngor Gwynedd i fwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau'r ysgol.
Bu cryn wrthwynebiad yn y gymuned i'r penderfyniad.
Roedd rhai o drigolion Abersoch wedi cyhuddo Plaid Cymru o 'droi ei chefn' ar y gymuned ac ar yr iaith Gymraeg - honiad a wrthodwyd gan y blaid.
Cafwyd y penderfyniad gwreiddiol i gau Ysgol Abersoch ar 28 Medi.
Fe gafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 9 Tachwedd.
Bydd disgyblion yr ysgol yn mynychu Ysgol Sarn Bach o ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac mae’r Cyngor yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb sydd ynghlwm ag Ysgol Abersoch.
“Mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ystyried dyfodol unrhyw ysgol. Serch hynny, mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.
“Ar ôl ystyried yr holl wrthwynebiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cyfnod gwrthwynebu statudol yn fanwl, penderfynwyd y dylai Ysgol Abersoch gau ar ddiwedd 2021.
“Mae awydd clir wedi bod ym mhentref Abersoch i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion Abersoch eisoes yn mynychu o Flwyddyn 4 ymlaen.”