Newyddion S4C

Cyhuddo Plaid Cymru o 'droi ei chefn' ar gymuned Abersoch

ITV Cymru 20/10/2021
abersoch

Mae rhai o drigolion Abersoch wedi cyhuddo Plaid Cymru o 'droi ei chefn' ar y gymuned ac ar yr iaith Gymraeg.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Gwynedd, sy’n cael ei reoli gan gynghorwyr Plaid Cymru, i gau ysgol gynradd Abersoch.

Mae Plaid Cymru yn gwrthod yr honiad ei bod wedi 'troi ei chefn' ar y gymuned.

Yn ôl Margot Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr, mae hi wedi ei siomi’n aruthrol gan y blaid ar lefel Cyngor a Seneddol.

“Fel aelod o Blaid Cymru, dwi methu coelio’r peth. Dwi wedi cael siom mawr.”

“Mae nhw wedi troi eu cefnau arnom ni yma yn Abersoch.”

“Dwi’n bendant na fydda i byth eto yn pleidleisio dros Blaid Cymru,” meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar. 

Ddiwedd Medi, fe bleidleisiodd y cabinet yn unfrydol i gau drysau’r ysgol ar 31 Rhagfyr eleni.

Image
margot

Bydd yn rhaid i’r saith disgybl sydd yno ar hyn o bryd symud i ysgol gyfagos Sarn Bach - ysgol Gymraeg arall - i dderbyn eu haddysg. 

Ond yn ôl Margot, sy’n gyn-ddisgybl yn Abersoch ei hun, bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gymuned Abersoch.

“Dydy’r ysgolion eraill ddim yn y pentref. Mae bod yn rhan o’r gymuned mor bwysig. Mae’n bwysig i’r plant ac mae’n bwysig i’r bobl sy’n byw yma.”

Mae Abersoch ym Mhen Llyn yn adnabyddus fel pentref gwyliau, gyda bron i bedwar ym mhob deg o’r tai yn ail-gartrefi. Ar gyfartaledd, mae prisiau tai yno’n costio dros hanner miliwn o bunnoedd.

Er hyn, mae Margot Jones yn pwysleisio bod cymuned agos yn dal i fodoli yn y pentref.

“Mae pawb yn gweld y lle ma just fel ‘holiday camp’, ond dydy o ddim.”

““Mae ’na bobl Cymreig dal yn byw yn Abersoch. Ma’ ’na gymuned yma, a ’da ni’n haeddu ysgol.”

“Dwi ddim yn credu bod yr aelodau Cabinet na Phlaid Cymru i gyd yn deall y gair ‘cymuned’, nac eisiau hybu’r iaith Gymraeg.”

Yn ôl ffigurau Cyfrifiad 2011, 43.5% o boblogaeth Abersoch oedd yn siarad Cymraeg. 

I Awen Jones, sy’n rhiant yn yr ysgol ac yn gweithio mewn deli lleol, mae’r ysgol yn ganolog i gynnal yr iaith.

“Does ’na ddim adeilad arall sy’n dod â ni, fatha pobl leol, at ein gilydd yn yr ardal.

“Tu allan i’r ysgol, mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n siarad Cymraeg. Ac os ’da chi’n tynnu’r element yna allan o’r pentref, dyna pryd ’da chi’n colli’r iaith.”

Mynegwyd pryderon gan yr Adran Addysg am y niferoedd isel o blant yn yr ysgol, gyda 76% o’r capasiti yn wag.

Soniwyd hefyd am y costau cynyddol i’w chynnal, gyda addysg pob disgybl yn costio £17,404 yr un yn Abersoch, o gymharu â chyfartaledd y sir o £4,198.

Image
abersoch

Ond yn ôl Awen Jones, mae’n rhaid edrych tu hwnt i’r ochr ariannol cyn dod i benderfyniad.

“Dwi’n deall y ffigyrau, ond mae’n dod i’r pwynt lle dwi’n meddwl, ydyn ni just fod rhoi give up ar Abersoch? Ydyn ni fod gadael Abersoch fel mae o?”

“Yn lle meddwl ‘mae’n rhaid i ni ei chau hi, dydy’r ffigyrau ddim yn neud sens’, mae’n rhaid gofyn ‘ydy hi’n bosib ei chadw hi ar agor?’”

Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Dwyfor a Meirionnydd yn Senedd Cymru, yn gwrthod yr honiad bod Plaid Cymru wedi 'troi ei chefn' ar Abersoch.

“Roedd yn benderfyniad anodd iawn, iawn i’r awdurdod lleol.”

“Mae na ddiffyg buddsoddiad wedi bod o’r tu allan yn yr ardal. Yr hyn sydd angen ar gyngor yw’r adnoddau hynny, yr arian hynny, er mwyn medru cynnal gwasanaethau hanfodol.”

Mae trigolion Abersoch yn ystyried mynd â’u brwydr i Senedd Cymru.

Fe wrthododd Cyngor Sir Gwynedd wneud cyfweliad. Fe ddywedon nhw y bydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor yn ystyried y penderfyniad ddydd Iau.

Mewn datganiad, maent yn nodi nad yw’r “adolygiad o sefyllfa Ysgol Abersoch wedi bod yn rhan o strategaeth ehangach ar gyfer addysg yn yr ardal, ond yn hytrach, yn ymateb i bryder benodol am heriau sy’n wynebu’r ysgol.”

Bydd pennod o Y Byd ar Bedwar o Ysgol Abersoch yn cael ei darlledu nos Fercher am 20:25 ar S4C.

Prif Lun: Tim Johnson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.