Conwy: Ysgolion y sir i orffen y tymor yn dysgu o gartref oherwydd Covid
Mae Cyngor Sir Conwy wedi cadarnhau y bydd ysgolion yn gorffen y tymor yn dysgu o gartref, gan ddilyn penderfyniadau mewn nifer o siroedd cyfagos.
Bydd yr ysgolion yn dysgu ar lein o ganlyniad i'r "ansicrwydd parhaus", medd y cyngor.
Bydd dysgu wyneb yn wyneb yn dod i ben yng Nghonwy ddydd Gwener a bydd ysgolion yn symud i ddysgu ar-lein am dridiau olaf y tymor.
O wybod yr ansicrwydd parhaus a’r penderfyniadau a wnaed gan awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth, rydym wedi trafod y sefyllfa gyda phenaethiaid, ac wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddod ag addysgu wyneb yn wyneb yn ysgolion Conwy i ben ar 17/12/21https://t.co/zfc8sZIvPb pic.twitter.com/6Cg5GOQ7JW
— Cyngor Conwy (@CBSConwy) December 16, 2021
Mae Cynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn eisoes wedi penderfynu dod â dysgu wyneb yn wyneb i ben ddydd Gwener.
Dywed Cyngor Sir Conwy y byddan nhw'n ysgrifennu at rieni a gofalwyr yn fuan gyda threfniadau ar gyfer y tymor nesaf.
Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles, wedi cadarnhau ddydd Iau y bydd ysgolion yng Nghymru yn ail-agor dau ddiwrnod yn hwyrach er mwyn rhoi amser iddyn nhw gynllunio ar gyfer dysgu o bell pe bai angen gwneud yn ystod y tymor.
Bydd ysgolion yn Sir Conwy yn parhau i fod ar agor tan ddiwedd y tymor i blant gweithwyr hanfodol neu ddisgyblion sy'n agored i niwed.
Llun: Llywodraeth Cymru