Y Gweinidog Addysg yn gofyn i ysgolion baratoi ar gyfer addysgu ar-lein
Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud y dylai ysgolion baratoi i ddechrau addysgu ar-lein os bydd rhaid yn ystod tymor y gwanwyn.
Daw hyn yn sgil ansicrwydd am yr amrywiolyn Omicron, gyda Jeremy Miles yn dweud bod angen sicrhau fod "cynlluniau cadarn" yn eu lle.
Cafodd ei gyhoeddi fore Iau y bydd tymor ysgol y gwanwyn yn dechrau deuddydd yn hwyrach er mwyn rhoi amser i athrawon gynllunio ar gyfer unrhyw darfu sy’n cael ei achosi gan Covid-19.
Mae Mr Miles hefyd wedi gofyn i ysgolion edrych ar gynlluniau wrth gefn – gan roi blaenoriaeth i flynyddoedd sy’n sefyll arholiadau.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn disgwyl gweld “cynnydd aruthrol” mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron dros yr wythnosau nesaf.
Hyd yma, 62 o achosion sydd wedi eu cadarnhau.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylid gwneud popeth sy'n bosib i warchod addysg plant.
Cynlluniau i ysgolion
Yn ogystal â defnyddio dau ddiwrnod cyntaf y tymor i gynllunio, bydd gan ysgolion yr hawl i ailgyflwyno amseroedd dechrau a gorffen amrywiol fel ffordd o leihau risg.
Bydd hi hefyd yn ofyniad i ddisgyblion ysgolion uwchradd i gymryd tri phrawf llif unffordd yn hytrach na dau'r wythnos.
Bydd yn rhaid gwisgo mygydau mewn ardaloedd cymunedol o ysgolion uwchradd hefyd.
Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd Mr Miles fod y sefyllfa yn un sy’n “esblygu’n gyflym ac rydym yn parhau i fonitro’r data a’r dystiolaeth ddiweddaraf”.
Yn ystod yr wythnos mae nifer o siroedd wedi cyhoeddi y bydd eu hysgolion yn symud i addysgu ar-lein yn ystod diwrnodiau olaf y tymor.
Conwy oedd y diweddaraf i gyhoeddi, gydag Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam Sir Ddinbych a Ceredigion hefyd yn cau drysau’r ysgol ar 17 Rhagfyr, gan ddarparu addysg ar-lein i’r mwyafrif rhwng 20 a 22 Rhagfyr.
'Nid yw addysg yn ddiwerth'
Dywedodd Laura Anne Jones, y Gweinidog Addysg Cysgodol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae’r rhai ieuengaf yn ein cymdeithas wedi aberthu cymaint yn ystod y pandemig i amddiffyn eraill ar gost enfawr i’w cyfleoedd bywyd eu hunain.
“Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cadw ar agor.
“Nid yw addysg yn ddiwerth, yn enwedig i blant bregus lle mai amser oddi cartref yw'r unig seibiant y maent yn ei gael rhag camdriniaeth.
“Mae pryderon dilys ynghylch argaeledd y gweithlu os yw ton sylweddol yn taro’r wlad, a dyna pam y mae’n rhaid cyfeirio blaenoriaeth ac egni llywodraeth at gyflwyno’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu cyn gynted â phosibl.”