Newyddion S4C

Cip ar brif benawdau'r bore

06/04/2021
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C, ar ddiwrnod cyntaf ein gwasanaeth digidol newydd.

Dyma gip olwg ar rai o'r prif benawdau heddiw:

Newyddion S4C: Staff y DVLA yn Abertawe yn mynd ar streic 

Bydd aelodau undeb y PCS yn cynnal streic yng nghanolfan y DVLA yn Abertawe ddydd Mawrth yn sgil pryderon am ddiffyg camau i ddiogelu staff rhag cyswllt agos ar y safle yn dilyn nifer o achosion positif o Covid-19. Dywed yr undeb fod 600 o achosion wedi cael eu cofnodi ymysg gweithwyr y DVLA yn Abertawe ers Medi 2020. Mae'r DVLA yn dweud fod camau diogelwch wedi eu cyflwyno ar y safle i ddiogelu gweithwyr.

Sky News: Heddlu fu'n chwilio am fyfyriwr coll yn dod o hyd i gorff yn Essex.

Mae plismyn oedd chwilio am fyfyriwr oedd ar goll ers pythefnos wedi dod o hyd i gorff dyn mewn afon yn Fforest Epping, Essex. Fe wnaeth Richard Okorogheye, 19, adael ei gartref yng ngorllewin Llundain nos Lun 22 Mawrth ac yna teithio i dref Loughton, Essex. Mae'r heddlu yn dweud fod y corff heb gael ei adnabod eto ond mae teulu Mr Okorogheye yn ymwybodol o'r datblygiadau ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

The Independent: Seland Newydd i agor swigen teithio gydag Awstralia ar 19 Ebrill

Mae'r awdurdodau yn Seland Newydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu dechrau swigen deithio gydag Awstralia ar 19 Ebrill. Mae'r newid yn golygu na fydd yn rhaid i deithwyr o'r ddwy wlad hunan-ynysu wedi teithio, gyda'r Independent yn adrodd y bydd y llacio yn rhyddhad mawr i nifer o deuluoedd a ffrindiau yn ddwy wlad gyfagos. Daw'r cyhoeddiad wedi misoedd o gyfyngiadau teithio rhwng y ddwy wlad.

Reuters: Pennaeth heddlu ym Minneapolis yn tystio fod Derek Chauvin wedi torri polisi wrth arestio George Floyd

Mae pennaeth heddlu Minneapolis wedi tystio wrth lys fod yr heddwas Derek Chauvin wedi torri rheolau'r heddlu wrth arestio George Floyd. Mae Mr Chauvin yn wynebu cyhuddiad o lofruddio Mr Floyd wrth ei arestio ym mis Mai 2020. Tra'n cyfeirio at sut gwnaeth y cyn-heddwas bwyso ei ben-glin ar wddf Mr Floyd, dywedodd y prif swyddog Medaria Arradondo: "Nid yw’n rhan o’n hyfforddiant, ac yn sicr nid yw’n rhan o’n moeseg a’n gwerthoedd." Mae Mr Chauvin yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.