Newyddion S4C

Staff y DVLA yn Abertawe yn mynd ar streic

Canolfan y DVLA yn Abertawe

Fe fydd aelodau undeb y PCS yn cynnal streic yng nghanolfan y DVLA yn Abertawe ddydd Mawrth.

Dywed yr undeb fod y streic rhwng 6-9 Ebrill yn deillio o bryderon am ddiffyg camau i ddiogelu eu haelodau rhag cyswllt agos ar y safle yn dilyn nifer o achosion positif o goronafeirws.

Mae’r undeb yn dweud fod 600 o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi ymysg gweithwyr y DVLA yn Abertawe ers fis Medi 2020. 

Dywed y DVLA fod camau diogelwch wedi eu cyflwyno ar y safle i ddiogelu gweithwyr.

Mae 3,300 o aelodau gan undeb y PCS ar y safle allan o dros 6000 o'r gweithlu, a’r disgwyl yw y bydd y gweithredu diwydiannol yn tarfu ar waith yr asiantaeth drwyddedu yn ystod cyfnod y streic.

Dywedodd datganiad ar wefan yr asiantaeth y byddai’r gweithredu diwydiannol rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener "yn effiethio’n uniongyrchol ar wasanaethau’r DVLA.

“Yn ystod y cyfnod hwn mae’n debygol y byddwch yn profi oedi gyda’r ceisiadau papur sydd yn cael eu hanfon atom ac os ydych yn ceisio cysylltu gyda’n canolfan."

Dywed y DVLA fod yr asiantaeth wedi cydweithio ar hyd bob cam o’r daith drwy gydol y pandemig i gydymffurfio gyda chanllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Maen nhw hefyd wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelwch ar y safle i ddiogelu gweithwyr yno medd llefarydd ar eu rhan.

Roedd y safle yn leoliad rhai cannoedd o achosion o COVID-19 ym mis Rhagfyr y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.