Rownd derfynol Ewro 2020: ‘Gallai cefnogwyr fod wedi cael eu lladd’
Mae adroddiad annibynnol wedi dod i'r casgliad y gallai cefnogwyr fod wedi cael eu lladd yn rownd derfynol Ewro 2020.
Roedd tua 2,000 o gefnogwyr Lloegr heb docynnau wedi torri drwy rwystrau diogelwch er mwyn cyrraedd cae Wembley cyn eu gêm yn erbyn yr Eidal yn rownd derfynol y bencampwriaeth ar 11 Gorffennaf 2021.
Yn ôl The Sun, mae adolygiad y Fonesig Louise Casey yn disgrifio'r digwyddiad fel “storm berffaith o anghyfraith”, a roddodd fywydau cefnogwyr mewn perygl.
Dywedodd y Farwnes Casey: "Roeddem yn agos at farwolaethau a/neu anafiadau a allai newid bywyd i rai, o bosibl i lawer.”
Mae’r adroddiad hefyd yn cyhuddo Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ac awdurdodau eraill o “golli cyfleoedd” i gynllunio ar gyfer yr aflonyddwch ac ymateb i’r arwyddion cynnar o’r anhrefn.
Mae'r gymdeithas wedi ymddiheuro am y "profiad ofnadwy" a ddioddefodd llawer o gefnogwyr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.