Newyddion S4C

Myfyriwr 19 oed wedi marw ar ôl disgyn o chweched llawr neuadd breswyl

25/04/2024
Llety preswyl

Mae dyn 19 oed wedi marw ar ôl disgyn o ffenestr ar chweched llawr neuadd breswyl Prifysgol Abertawe. 

Bu farw Matthew Gilbert yn yr ysbyty wedi iddo gwympo 'or ffenest ar gampws Singleton.

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad ddydd Iau: "Cawsom ein galw i ddigwyddiad yn oriau mân y bore dydd Sul 14 Ebrill ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe.

"Cafodd Matthew Gilbert, myfyriwr 19 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd o ganlyniad i'r anafiadau a ddioddefodd ar ôl syrthio allan o ffenest chweched llawr.

"Mae'r heddlu wedi cael gwybod bod Matthew wedi marw yn yr ysbyty ar 24 Ebrill."

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd David Connick: "Rydym yn cydymdeimlo â theulu Matthew ac mae swyddogion yn parhau i'w cefnogi. 

"Mae Prifysgol Abertawe wedi cael gwybod am farwolaeth Matthew, a byddant yn rhoi cymorth i fyfyrwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe yn dilyn y digwyddiad bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau a'u bod yn cynorthwyo'r llu gyda'r ymchwiliad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.