Dyfodol gwleidyddol Prif Weinidog yr Alban yn y fantol
Dyfodol gwleidyddol Prif Weinidog yr Alban yn y fantol
Mae dyfodol gwleidyddol Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf yn y fantol ar ôl i Blaid Werdd Yr Alban ddweud y bydden nhw’n pleidleisio yn ei erbyn mewn cynnig o ddiffyg hyder.
Daeth arweinydd yr SNP â’r cytundeb rhannu grym rhwng y ddwy blaid i ben yn sydyn fore Iau, gan gythruddo arweinwyr y Gwyrddion a’u cyhuddodd o “lwfrdra gwleidyddol”.
Dywedodd Lorna Slater, cyd-arweinydd Gwyrddion yr Alban, wrth asiantaeth newyddion PA: “Nid oes gennym bellach hyder mewn llywodraeth flaengar yn yr Alban yn gwneud y peth iawn dros hinsawdd a natur.”
Rhoddodd Cytundeb Tŷ Bute fwyafrif i’r llywodraeth dan arweiniad yr SNP yn Holyrood ond fe ddaeth o dan straen yn ystod y dyddiau diwethaf ar ôl i’r Gwyrddion ddweud y bydden nhw’n rhoi dyfodol y cytundeb i bleidlais gan eu haelodau.
Roedd rhai yn y blaid yn anhapus gyda’r penderfyniad diweddar gan Lywodraeth yr Alban i gamu yn ôl o ymrwymo i dargedau hinsawdd 2030.
Ond, mor ddiweddar â dydd Mercher, roedd uwch swyddogion yr SNP a'r Gwyrddion yn gyhoeddus o blaid parhau â Chytundeb Tŷ Bute.
Mae’r cynnig dim hyder wedi’i gynnig gan arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Douglas Ross.