Newyddion S4C

Athro 'wedi ei ysgwyd' ar ôl trywanu Ysgol Dyffryn Aman, meddai ei frawd

25/04/2024
Darrel Campbell

Mae gwleidydd wedi dweud bod ei frawd wedi ei "ysgwyd" gan y profiad ar ôl chwarae rhan wrth atal merch ifanc yn ystod digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Dywedodd yr aelod o Senedd Cymru Cefin Campbell, bod ei frawd, Darrel Campbell, yn un o'r cyntaf yn y fan a'r lle wedi i ddisgybl a dau athro gael eu trywanu am 11.20 ddydd Mercher.

Yn ôl adroddiadau roedd Darrel Campbell wedi llwyddo i atal un ferch cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Dywedodd Cefin Campbell ei fod yn "falch" o weithredoedd ei frawd, ond bod hwnnw'n "casau yr holl sylw".

Ben bore Iau roedd merch yn ei harddegau yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio. Cafodd y cleifion eu cludo i’r ysbyty ond nid yw’r anafiadau yn rai sy’n peryglu eu bywydau meddai Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae wedi bod yn athro yno ers 40 mlynedd ac roedd yn rhan o’r digwyddiad ddoe yn yr ystyr mai ef oedd y cyntaf yn y fan a’r lle ac yn amlwg bu’n rhaid iddo ddelio â sefyllfa ingol ac anhrefnus iawn,” meddai Mr Campbell wrth Radio Wales.

“Mae’n debyg iddo wneud yr hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobol wedi’i wneud yn yr un sefyllfa, ceisio tawelu pethau ac atal pobol rhag gwaethygu’r sefyllfa.

“Yn amlwg mae wedi cael ei ysgwyd gan yr holl brofiad fel y mae’r holl staff, disgyblion, rhieni ac ati.

“Ond dwi’n meddwl mai’r ymdeimlad o sioc ydi o oherwydd mae e wedi bod yno ers 40 mlynedd fel athro, dyw e erioed wedi gweld dim byd fel hyn.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n taro cartref i bobol y dylai ddigwydd mewn lle fel hyn.”

Dywedodd yr Aelod Seneddol, Jonathan Edwards bod un athro wedi ei ryddhau gyda mân anafiadau tra bod un arall wedi ei drosglwyddo i ysbyty yng Nghaerdydd oherwydd bod y “sefyllfa’n fwy difrifol”.

Mae rhaglen Newyddion S4C yn deall mai Fiona Elias, athrawes drama a Chymraeg yn yr ysgol, a phennaeth Blwyddyn 7, yw un o'r bobl sydd wedi ei hanafu.

Dywedodd ei thad John Owen wrth bapur newydd y Times fod ganddi "anafiadau arwynebol".

Image
Fiona Elias
Fiona Elias

‘Pob ysgol mewn perygl’

Bydd Ysgol Dyffryn Aman ar gau ddydd Iau wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio.

Roedd heddlu mewn siwtiau gwyn fforensig i’w gweld yn archwilio ardal ger prif adeilad yr ysgol ddydd Iau. Roedd cyllell wedi cael ei darganfod, medden nhw.

Mae’r heddlu wedi galw ar bobol i beidio dyfalu am beth ddigwyddodd ac i beidio â rhannu delweddau fideo o’r digwyddiad ar-lein.

Dywedodd Mair Wyn, sydd wedi bod yn llywodraethwr yn Ysgol Dyffryn Aman ers 34 mlynedd, fod yr “amserau wedi newid” ac “mae swydd athro yn beryglus iawn”.

Meddai: “Mae’n sioc lwyr i’r gymuned.

“Mae’n ysgol ardderchog, mae’r disgyblion yn blant mor hyfryd ac ni allaf ddeall pam fod hyn wedi digwydd, mae’n anghredadwy a dweud y gwir.”

Ychwanegodd: “Mae’n bryder mawr iawn beth fydd y dyfodol. Mae'r ddisgyblaeth wedi mynd o ysgolion. Mae amseroedd wedi newid. 

“Mae pethau'n digwydd nawr, mae swydd athro yn beryglus iawn.

“Rwy’n ofni nawr am y ddau athro hyn sydd wedi’u hanafu. Mae amseroedd wedi newid yn y 10 mlynedd diwethaf.

“Roeddech chi'n edrych i fyny at athro yn fy amser i, roedd arnoch chi ofn athro. 

“Ond dwi’n meddwl bod pob ysgol mewn perygl a dweud y gwir pan ti’n meddwl am y peth, dydych chi ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel.”

Dywedodd Cefin Campbell fod bellach angen ystyried sut i wella diogelwch mewn ysgolion a'i fod yn gwestiwn i Senedd Cymru.

"Gydag unrhyw ddigwyddiad mawr fel hyn mae'n rhaid gofyn cwestiynau a dysgu gwersi," meddai Cefin Campbell, sy'n gyn-ddisgybl yn yr ysgol, wrth Radio Cymru.

"Efallai fod yna gwestiwn i'r Senedd o ran holl ysgolion Cymru. Mae'n amlwg ar sail yr hyn ddigwyddodd ddoe bod pethau ofnadwy fel hyn yn gallu digwydd.

"Dy'n ni ddim eisiau mynd i lawr y llwybr lle mae ysgolion yn America, gogledd America, yn gorfod mynd drwy system o tsecio bagiau bob dydd.

"Ond rhaid gofyn y cwestiynau sut ydan ni'n gallu gwella diogelwch ysgolion."

‘Canmol’

Dywedodd Dafydd Llywelyn, comisiynydd heddlu a throseddu Dyfed-Powys, ei fod wedi cael sioc enbyd.

Dywedodd Mr Llywelyn: “Rwyf am sicrhau’r cyhoedd bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ac y bydd swyddogion a staff yn gweithio’n ddiflino i ddeall amgylchiadau’r digwyddiad hwn.

“Mae fy meddyliau’n mynd allan i bawb yr effeithiwyd arnyn nhw, gan gynnwys y disgyblion, yr athrawon a’r staff a fu’n gysylltiedig neu’n dyst i’r digwyddiad dychrynllyd hwn. 

“Mae ein meddyliau hefyd gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai a anafwyd.

“Rwyf am ganmol y rhai oedd yn y fan a’r lle a sicrhaodd fod y sefyllfa’n dod dan reolaeth a’r gwasanaethau brys a ddaeth i ddiogelu’r lleoliad a thawelu meddwl y cyhoedd.”

Llun: Yr Aelod o Senedd Cymru Cefin Campbell.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.