Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch 13 oed wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson

25/04/2024

Ysgol Dyffryn Aman: Merch 13 oed wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson

Mae merch 13 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Cafodd dau athro a disgybl yn eu harddegau eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau trywanu ar ôl y digwyddiad am 11.20 ddydd Mercher.

Mae’r tri bellach wedi gadael yr ysbyty, meddai’r heddlu.

Dywedodd Michael Cray, Uwch Erlynydd y Goron yng Nghymru: “Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi Heddlu Dyfed Powys i gyhuddo merch mewn cysylltiad â thrywanu tri pherson yn Ysgol Dyffryn Aman ddoe.

“Fe wnaeth erlynwyr o CPS Cymru-Wales awdurdodi’r cyhuddiadau yn dilyn adolygiad o ffeil dystiolaeth gan Heddlu Dyfed Powys.

“Mae person ifanc na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’i chyhuddo o dri chyhuddiad o geisio llofruddio a bod ag eitem llafnog yn ei meddiant ar dir ysgol."ychwanegodd Mr Cray.

Fe gadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd fod y ferch ifanc wedi’i chadw yn y ddalfa er mwyn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Cafodd un o'r athrawon, Fiona Elias, ei henwi gan lefarydd ar ran y Prif Weinidog Rishi Sunak brynhawn Iau. Liz Hopkin, athrawes anghenion arbennig, yw enw'r ail athrawes yn ôl adroddiadau.

Ysgol yn parhau ar gau

Bydd yr ysgol yn parhau ar gau ddydd Gwener ar gyfer addysgu personol meddai Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod Heddlu Dyfed Powys yn credu eu bod yn debygol o ddod â'u hymchwiliad i ben yn yr ysgol erbyn diwedd y dydd ddydd Iau.

Nid yw wedi ei gadarnhau a fydd yr ysgol yn ailagor ddydd Llun.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin: “Ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin, hoffwn fynegi ein rhyddhad bod y tri unigolyn a anafwyd wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty a dymunwn wellhad buan iddynt.

“Daeth digwyddiad ddoe yn sioc fawr i bawb a hoffwn gydnabod ymateb gwych staff a disgyblion yr ysgol, staff y cyngor a’r holl wasanaethau brys dan sylw.

“Rwyf wedi fy syfrdanu gan gryfder a phenderfyniad pawb dan sylw i weld ein plant yn dychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.”

Dryll BB

Mae’r heddlu hefyd wedi arestio llanc 15 oed yn Sir Gâr dros nos ar ôl “bygythiadau yn ymwneud â dryll” yn gysylltiedig â’r achos.

Daeth yr heddlu o hyd i ddryll ‘BB’ – math o ddryll aer.

“Mae’r bachgen yn ei arddegau o Cross Hands yn parhau yn nalfa’r heddlu,” medd llefarydd ar ran y llu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.