Euro 2020: Cefnogwyr Lloegr yn torri drwy rwystrau diogelwch yn Wembley
Euro 2020: Cefnogwyr Lloegr yn torri drwy rwystrau diogelwch yn Wembley
Mae rhai o gefnogwyr tîm pêl-droed Lloegr wedi torri drwy rwystrau diogelwch er mwyn cyrraedd cae Wembley cyn eu gêm yn erbyn yr Eidal yn rownd derfynol Euro 2020.
Roedd oddeutu 100 o gefnogwyr wedi heidio i'r safle cyn i swyddogion diogelwch weithredu.
Yn ôl adroddiadau, roedd miloedd o gefnogwyr wedi ymgynnull ger y stadiwm ar fore dydd Sul, gyda'r heddlu yn rhybuddio i beidio â theithio os nad oedd ganddyn nhw dicedi.
Yn ogystal â hyn, roedd nifer o gefnogwyr Lloegr oedd wedi sicrhau mynediad i’r stadiwm wedi penderfynu anwybyddu cais rheolwr Lloegr, Gareth Southgate, cyn y gêm i barchu anthemau’r ddwy wlad.
Roedd sŵn bŵio i’w glywed yn y cae yn ystod anthem Yr Eidal.