Tri o blant ymysg y mudwyr fu farw wrth groesi'r môr o Ffrainc i'r DU

Mae erlynwyr o Ffrainc wedi dweud bod tri o blant ymysg y mudwyr fu farw wrth groesi'r môr o Ffrainc i'r DU ddydd Mercher.
Fe wnaeth 27 o fudwyr foddi wrth groesi draw i'r Deyrnas Unedig mewn cwch 'dinghy' yn ôl adroddiadau.
Roedd tri ohonynt yn blant ynghyd â saith menyw ac 17 dyn.
Cafodd dau o bobl eu hachub ac mae pedwar wedi’u harestio am smyglo pobl, meddai Gweinidog dros Faterion Mewndirol Llywodraeth Ffrainc, Gerald Darmanin.
Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi galw am batrolau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyd arfordir Ffrainc i atal cychod mudwyr rhag ceisio croesi’r Sianel.
Yn ôl Sky News, cynhaliwyd trafodaeth rhwng Boris Johnson ag Emmanuel Macron, Prif Weinidog Ffrainc nos Fercher yn sgil y digwyddiad.
Mae Boris Johnson wedi adnewyddu ei gynnig blaenorol i anfon heddlu'r DU a swyddogion Llu'r Ffiniau rheoli’r Sianel ar y cyd â'r Ffrancwyr.
Dywedodd Johnson fod marwolaethau dydd Mercher yn dangos bod angen i'r ddwy wlad ddyfnhau eu cydweithrediad wrth ddelio â'r mater.
I am shocked, appalled and deeply saddened by the loss of life at sea in the Channel.
— Boris Johnson (@BorisJohnson) November 24, 2021
My thoughts are with the victims and their families.
Now is the time for us all to step up, work together and do everything we can to stop these gangs who are getting away with murder. pic.twitter.com/D1LWeoIFIu
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street bod y ddau wedi cytuno bod angen “camau brys” i atal gangiau sy’n smyglo pobl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Sandar Csudai