Teyrnged i wirfoddolwr oedd yn cludo gwaed a fu farw wedi gwrthdrawiad yn Llanddarog

Andrew Rogers

Mae teulu gwirfoddolwr oedd yn cludo gwaed a fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddo.

Fe wnaeth Andrew Rogers, 61 oed farw wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A48 ger Llanddarog ar 29 Rhagfyr.

Bu farw yn yr ysbyty ar Ddydd Calan.

Cafodd Mr Rogers ei ddisgrifio gan ei deulu fel person oedd yn "cael ei barchu" gan y gymuned ffermio yn ardal Castell y Gelli, Powys lle'r oedd yn byw.

"Roedd Andrew yn gwirfoddoli fel beiciwr modur oedd yn cludo gwaed ar y pryd, rhywbeth roedd yn angerddol iawn dros wneud.

"Roedd yn helpu pobl ac yn gwirfoddoli fel gweinidog stryd am sawl mlynedd. Roedd yn Gristion ac roedd ei fywyd yn cael ei arwain gan ei Arglwydd Iesu.

"Trwy gydol ei fywyd roedd Andrew yn ffarmwr, ac roedd yn ffarmwr angerddol iawn.

"Roedd yn ddyn adnabyddus oedd yn cael ei garu a'i barchu o fewn y gymuned ffermio ac yn wybodus iawn."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal neu sydd â delweddau dash-cam i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod DP-20251229-254.

Dyma'r ail wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur cludo gwaed yn y rhanbarth eleni.

Fis Gorffennaf, cafodd beiciwr modur ei ladd ar ffordd yr A478 ger Blaenffos yn Sir Benfro tra'n cludo gwaed. Roedd Timothy Minett, yn 78 oed ac yn feiciwr modur ar gyfer elusen Beiciau Gwaed Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.