Swyddfa Dywydd: 2025 yw'r flwyddyn boethaf ar gofnod yn y DU
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi mai 2025 oedd y flwyddyn boethaf yn y Deyrnas Unedig ers i gofnodion ddechrau.
Roedd tymheredd cyfartalog y wlad ar draws 2025 yn 10.09C, gan guro'r record flaenorol o 10.03C a gafodd ei osod yn 2022.
Erbyn diwedd 2025 roedd y 10 flwyddyn gynhesaf yn y DU wedi digwydd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Roedd cyfnodau parhaus o dywydd sych a heulog yn 2025 yn golygu bod pob mis, ac eithrio mis Ionawr a mis Medi, yn gynhesach na'r cyfartaledd.
Cyn bo hir roedd cofnodion yn cael eu torri wrth i'r gwanwyn ac yna'r haf brofi i fod y cynhesaf erioed yn y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth cyfres o bedwar ton wres o ganol mis Mehefin i ganol mis Awst arwain at dymheredd uwchlaw 30C mewn sawl ardal.
Cafodd sychder ei gyhoeddi mewn sawl rhanbarth, gyda rhai cronfeydd dŵr yn syrthio islaw 50% o'u capasiti arferol.
Mae cyfnodau hir o awyr las yn golygu y bydd 2025 yn torri record ddwbl, gan mai dyma'r flwyddyn gynhesaf erioed ond hefyd yr un mwyaf heulog.
Fe wnaeth y Deyrnas Unedig gofnodi dros 1,648.5 awr o heulwen dros y 12 mis – 61.4 awr yn fwy na'r record flaenorol o 1,587.1 yn 2003.
Ar draws y DU, 2025 oedd y flwyddyn gynhesaf erioed i Loegr a'r Alban a'r ail gynhesaf (ar ôl 2023) i Gymru a Gogledd Iwerddon.
Mae data tymheredd y Swyddfa Dywydd yn dechrau yn 1884, tra bod data heulwen yn dechrau yn 1910.
Beth sy'n achosi'r tywydd poeth?
Dywedodd y gwyddonydd o'r Swyddfa Dywydd, Dr Emily Carlisle: "Er y bydd llawer yn cofio gwanwyn a haf hir cynnes 2025, yr hyn sydd wedi bod yn nodedig eleni yw'r gwres cyson drwy gydol y flwyddyn, gyda phob mis ac eithrio mis Ionawr a mis Medi yn gynhesach na'r cyfartaledd.
"Yn y chwe mis o fis Mawrth i fis Awst, roedd pob mis o leiaf 1C yn uwch na'r cyfartaledd rhwng 1991 a 2020.
"Yn feteorolegol, mae'r cynhesrwydd wedi'i yrru'n bennaf gan systemau pwysedd uchel parhaus sy'n dod ag amodau sych a heulog hirfaith, ochr yn ochr â thymheredd y môr uwchlaw'r cyfartaledd o amgylch y DU.
"Mae'r ffactorau hyn wedi cyfuno i gadw'r tymereddau'n gyson uwch na'r arfer am lawer o'r flwyddyn."

