Newyddion S4C

27 o fudwyr wedi boddi wrth groesi'r môr i'r DU o Ffrainc

Sky News 24/11/2021
Calais

Mae 27 o fudwyr wedi boddi wrth groesi draw i'r DU mewn cwch 'dinghy' o Ffrainc ddydd Mercher yn ôl adroddiadau.

Yn ôl Sky News, cafodd nifer y rhai sydd wedi marw ei gadarnhau gan Weinidog dros Faterion Mewndirol Llywodraeth Ffrainc. 

Wrth siarad o Calais, dywedodd Gerald Darmanin roedd pump o fenywod ac un ferch ifanc ymysg y rhai fu farw.

Mae dau o bobl wedi'u hachub o'r dŵr wrth i awdurdodau Prydeinig a Ffrenig cyd-weithio yn yr ymgyrch chwilio ac achub. 

Mae Prif Weinidog Ffrainc, Jean Castex, wedi galw'r digwyddiad yn drychineb ar y cyfryngau cymdeithasol, gan anfon ei gydymdeimlad at y nifer fawr sydd ar goll neu wedi eu hanafu.

Fe wnaeth eu disgrifio fel "dioddefwyr smyglwyr troseddol sydd yn manteisio ar eu trallod."

Yn ôl awdurdodau Ffrenig, dyma'r nifer fwyaf o farwolaethau erioed yn ystod digwyddiad yn gysylltiedig o fudwyr yn ceisio croesi draw i'r DU.

Mae pedwar o bobl wedi'u harestion yn gysylltiedig â smyglo pobl yn anghyfreithlon. 

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ei fod "mewn sioc, wedi ei arswydo a'i dristáu" gan y digwyddiad.

Mae Mr Johnson wedi cynnal cyfarfod brys gyda phwyllgor COBRA y DU mewn ymateb i'r digwyddiad.

Darllenwch y stori llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.