Teyrnged i fam i bedwar a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu mam i bedwar a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhonypandy wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Donna Ball, 48 oed ddydd Mawrth ar ôl gwrthdrawiad rhwng ei char a fan ar ffordd osgoi'r A4119 yn Nhrewiliam am 11:15 ar 29 Rhagfyr.
Cafodd dyn 19 oedd, oedd yn gyrru'r fan ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a dau achos o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan 30 Mawrth tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.
'Fy nghariad'
Dywedodd gŵr Donna Ball bod ei marwolaeth "wedi gadael twll mawr" ym mywyd ei theulu.
"Rydym ni fel teulu wedi ein dinistrio gan farwolaeth sydyn, drasig a diangen ein Donna annwyl," meddai.
"Hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau brys oedd yn bresennol, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, yr adran achosion brys a'r timoedd gofal dwys ym Mhrifysgol Athrofaol Cymru.
"Mae marwolaeth Donna wedi gadael twll mawr fydd byth yn gallu cael ei lenwi.
"Mae ein hen fywydau drosodd, ac mae ein bywydau hebddi nawr yn dechrau.
"Rydym yn cymryd cysur mawr yn y parch uchel y cafodd Donna ei hystyried. Gorffwysa'n dawel, fy nghariad, nes i mi dy weld di eto."
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn gofyn i unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam i o'r digwyddiad neu yrrwr y fan i gysylltu â nhw trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2500409628.