Oedi ar yr A55 wrth i rybudd am eira a rhew gael ei ymestyn i'r penwythnos
Oedi ar yr A55 wrth i rybudd am eira a rhew gael ei ymestyn i'r penwythnos
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru dros y penwythnos, wrth i eira arwain at oedi ar yr A55.
Dywedodd Traffig Cymru bod oedi ger Cyffordd 10 Bangor oherwydd rhew ac eira.
Mae'r ffordd tua'r dwyrain ar gau oherwydd cerbydau sy'n sownd, a mae gwyriad yn ei le i ailymuno ar Gyffordd 11, Llandygai.
"Derbyniwyd nifer o alwadau bore 'ma yn adrodd gwrthdrawiadau (ym Mangor, Caernarfon ac ar Ynys Môn), felly pwyll pia hi pan yn dychwelyd adref heno," meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Fe ddaeth y rhybudd gwreiddiol gan y Swyddfa Dywydd i rym am 00:00 fore Gwener ac roedd yn parhau tan 12:00.
Bellach maen nhw wedi ymestyn y rhybudd ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul.
Fe fydd rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym rhwng 18:00 nos Wener a 10:00 fore Sadwrn, a rhwng 15:00 ddydd Sul a 12:00 fore Llun.
Bydd y rhybudd rhwng nos Wener a bore Sadwrn yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Bro Morgannwg Caerdydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Gaerfyrddin
- Wrecsam
- Ynys Môn
Fe fydd y rhybudd sydd yn dod i rym ddydd Sul yn effeithio ar bob un o'r siroedd uchod heblaw am Fro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Bydd siroedd Blaenau Gwent, Caerffili a Sir y Fflint yn cael eu heffeithio gan ogystal.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ffyrdd a rheilffyrdd gael eu heffeithio gan yr eira a'r rhew, gan arwain at oedi ar wasanaethau trenau a bysiau.
Maen nhw'n rhybuddio pobl i gymryd gofal wrth gerdded ar hyd llwybrau llithrig.
Cyngor y Swyddfa Dywydd yw gwirio cyn teithio rhag ofn bod ffyrdd wedi cau neu fod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu canslo.
"Os ydych chi'n gyrru, gwnewch yn siŵr bod gennych chi rai pethau hanfodol yn eich car rhag ofn y bydd unrhyw oedi (e.e. dillad cynnes, bwyd, dŵr, blanced, tortsh, crafwr iâ/rywbeth i ddad-rewi iâ, triongl rhybuddio, fest gwelededd uchel a gwefrydd ffôn yn y car)," medden nhw.
Rhybudd dydd Gwener
Fore Gwener dywedodd Traffig Cymru bod rywfaint o eira wedi achosi "amodau gyrru gwael" rhwng cyffyrdd 11 Llandygai ac 14 Llanfairfechan yr A55 yng ngogledd Cymru.
Fe allai hyd at 5cm o eira ddisgyn mewn rhai mannau, yn enwedig ar dir uchel yng ngogledd Cymru.
Ond fel arall mae disgwyl tua 2cm o eira mewn sawl rhan o Gymru.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd isod:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Casnewydd
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Dinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam
Mae'r rhybudd melyn am eira a rhew hefyd yn ymestyn i ganolbarth a de Lloegr a mae rhybudd melyn am eira a rhew a rhybuddion oren am eira yn yr Alban.
