Miloedd yn fwy o droseddwyr i'w tagio cyn gadael y carchar
Bydd miloedd yn fwy o droseddwyr yn cael eu tagio cyn gadael y carchar, mewn ymgais i dynhau'r broses o'u goruchwylio.
Mae hynny'n golygu y bydd y cynllun peilot i osod tagiau ar droseddwyr cyn iddyn nhw adael gatiau'r carchar yn cael ei ehangu.
Daw hyn wrth i don newydd o droseddwyr gael eu rhyddhau'n gynnar yn ystod y flwyddyn nesaf. Y nod yw rhyddhau rhagor o le mewn carchardai gorlawn yng Nghymru a Lloegr.
Y llynedd, dechreuodd chwe charchar osod tagiau ar droseddwyr cyn iddyn nhw adael safle'r carchar, fel rhan o gynllun newydd.
Bydd rhagor o garchardai'n mabwysiadu'r drefn, gan ddod â'r cyfanswm i 83 erbyn diwedd mis Mawrth nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris: “Mae angen i droseddwyr a diffynyddion ddeall nad yw gadael carchar neu lys yn golygu eu bod yn dianc rhag yr awdurdodau.
“Mae tagio yn un o nifer o ddulliau rydyn ni'n eu defnyddio i gadw golwg ar droseddwyr, ond mae'r dystiolaeth yn dangos ei fod yn gweithio.
“Drwy osod tagiau cyn iddyn nhw gerdded allan drwy gatiau'r carchar neu allan o lys, rydyn ni'n tynhau'r rhwyd o amgylch y rhai sy'n torri'r gyfraith, gan sicrhau nad oes unman i guddio,” meddai.
Ddim yn 'gwarchod y cyhoedd'
Daeth rhybudd mewn adroddiad diweddar bod oedi cyn gosod tagiau. Yn ôl yr Arolygiaeth Prawf ym mis Medi, nid oedd bron i hanner y tagiau electronig wedi'u gosod mewn pryd. Roedd rhai achosion yn cymryd hyd at bum mis.
O dan y cynllun rhyddhau'n gynnar, bydd tua 5,000 o garcharorion yn cael eu rhyddhau fesul cam.
Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder yr wrthblaid, Nick Timothy, wedi beirniadu'r cynllun rhyddhau'n gynnar, gan ddweud y byddai'r Ceidwadwyr yn adeiladu 50,000 o gelloedd newydd ac yn anfon troseddwyr o wledydd tramor yn ôl i'w gwledydd cartref.
“Nid yw'r cynllun hwn yn gwarchod y cyhoedd,” meddai.