Panel i 'ganfod y gwir' am effaith profion niwclear ar gyn-filwyr
Mae Andy Burnham wedi cyhoeddi ymchwiliad i brofiadau cyn-filwyr a oedd yn rhan o raglen brofi arfau niwclear.
Yn ôl Prif Weinidog y DU, y bwriad yw canfod y “gwir” am effaith profion niwclear ar gyn-filwyr a’u teuluoedd.
Mae pobl a fu’n gwasanaethu mewn safleoedd profi niwclear ar ddiwedd y 1950au wedi bod yn dadlau bod y gwaith wedi cael effaith ar eu hiechyd.
Mae rhai’n dweud eu bod wedi cael canser, anhwylderau gwaed ac wedi colli babanod drwy gamesgoriad o ganlyniad i’r arbrofion niwclear.
Dywedodd Burnham ddydd Mawrth fod y cyn-filwyr wedi “aros yn rhy hir am y gwir”. Bydd panel annibynnol yn cael ei sefydlu, a bydd y cadeirydd yn “ddi-baid yn ei ymdrechion i ddod o hyd i’r ffeithiau”, meddai.
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Wes Streeting, wedi dweud na fyddai’n rhagdybio a fyddai hyn yn arwain at ymddiheuriad neu iawndal gan y llywodraeth.
Bydd yr ymchwiliad yn dilyn yr un model ag ymchwiliad Hillsborough. Yr un person fydd yn cadeirio’r ddau ymchwiliad, sef yr Esgob James Jones.
'Cam gwych ymlaen'
Y disgwyl yw y bydd y panel yn gweithredu o dan Ddeddf Hillsborough. Bydd yn ofynnol i swyddogion cyhoeddus ac awdurdodau weithredu’n agored ac yn dryloyw yn ystod yr ymchwiliad.
Y nod fydd cyhoeddi adroddiad erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf, meddai Stryd Downing. Ar 3 Hydref bydd 75 mlynedd ers i’r DU gynnal ei phrawf cyntaf o arf niwclear.
Yn ôl Alan Owen, sydd wedi cyd-sefydlu’r grŵp ymgyrchu Labrats, mae’r cyhoeddiad yn “gam gwych ymlaen”. Roedd ei dad yn un o’r rhai a fu’n gwasanaethu yn Ymgyrch Dominic ar Ynys y Nadolig yn 1962.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn un “cyflym”, gan fod nifer o’r cyn-filwyr yn eu hwythdegau hwyr. Dywedodd fod yr ymgyrch wedi bod yn “waith caled dros nifer fawr o flynyddoedd”.
Llun: Ian Vogler/Daily Mirror/PA