Cau drysau un o gapeli Cymraeg Lloegr yn 'benderfyniad anodd'
Cau drysau un o gapeli Cymraeg Lloegr yn 'benderfyniad anodd'
Mae blaenor olaf un o gapeli'r Hen Gorff yn Lloegr wedi disgrifio’r penderfyniad o orfod cau’r drysau am y tro olaf fel un "anodd iawn".
Wedi canrif a hanner o wasanaethu mae Capel Presbyteraidd Seion yng Nghroesoswallt wedi cynnal y gwasanaeth olaf dros gyfnod y Nadolig.
Yn ôl Dewi Lloyd, blaenor olaf y capel, dim ond oddeutu 10 o aelodau sydd yn mynychu bellach.
Y disgwyl yw y bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r henaduriaeth.
Ar ôl symud o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn ifanc mi gymrodd rhieni Dewi ofal dros y capel.
Yma briododd ei wraig Glenys ym 1958 ac yma cafodd ei blant eu bedyddio.
Mae’n dweud ei fod yn cofio’r capel yn llawn: "Pan ddaetho ni yma roedd y gynulleidfa dros 200.
"Oedda ni’n cael tri gwasanaeth bob dydd Sul a’r capel 'ma bron yn llawn bob nos Sul."
Fel nifer o gapeli yng Nghymru, mae’r capel wedi gweld hi’n anodd denu cynulleidfa newydd wrth i’r rhai sydd yno ar hyn o bryd heneiddio.
"Beth oedd yn arfer digwydd yn y dre oedd bod pobl ifanc yn dod i weithio yma, mi oedd gyno ni ffrindiau o Flaenau Ffestiniog a Phwllheli ac ati," meddai Dewi.
"Ac [mi oedda nhw’n] gweithio yma ond ddim yn mynd adref ar benwythnos.
"Be sy’n digwydd rŵan ydi bod gan bobl gar ac mae nhw’n mynd adref, felly 'da ni’n di colli hynny o aelodau."
Wrth baratoi i gau'r drysau, mae nifer o’r aelodau wedi dychwelyd i hel atgofion.
Dywedodd Gwenda Roberts, sydd wedi bod yn aelod ar hyd ei hoes, ei bod yn cofio’r capel yn llawn gyda gwasanaethau ac eisteddfodau yn cael eu cynnal.
"Dyma nath fy merched ddweud... mae’r lle 'ma'n deulu," meddai.
"Mae’n drist iawn ond dwi’n meddwl bod yr amser wedi dod i ni ddeud hwyl fawr."
Wrth edrych ar hen luniau, mae Glenys Lloyd yn dweud bod gan y capel a’r Gymraeg le pwysig yn y dref sydd dros y ffin.
“Roeddwn i’n crio cyn dod heddiw," meddai.
Mae’n dweud bod y capel wedi galluogi i’r iaith Gymraeg ffynnu yn yr hen dref farchnad a hithau dal i’w chlywed yno hyd heddiw.
Un arall sydd wedi mynychu’r gwasanaethau ers degawdau ydi Tom Davies.
"Mae ‘di bod yn graig imi yn fy mywyd," meddai.
"Dwi 'di dysgu gymaint am y ffydd Cristnogol, ar y Sul oedde ni’n dod i ddysgu am Gristnogaeth ac ymarfer yn yr iaith Gymraeg.
"Ond i droi at y Saesneg, every good thing comes to an end.
"'Da ni ddim yn gweld dyfodol i’r capel yn yr oes 'da ni’n byw ynddi. Mae’n drist iawn ond mae 'di dod a fi at y Beibl ac at bregethau gwych gan enwogion y ffydd."
Wrth i nifer o gapeli brofi heriau tebyg, does fawr unigryw bosib am yr hyn mae Seion yn ei wynebu.
Ond mynnu mae’r gynulleidfa bod gan y capel hwn bwysigrwydd wrth gynnal yr iaith Gymraeg mewn tref yn Lloegr, ac er bod un capel Cymraeg arall yn y dref o hyd, dweud mae’r blaenor olaf, Dewi Lloyd, bod dod i delerau â’r penderfyniad yn ergyd iddo.
"Mae’n anodd iawn," meddai.
"Ond dim opsiwn... a be' ddigwyddith nesa?
"Fydd o’n estate agents a for sale fyddi."
Gyda’r gwasanaeth olaf bellach wedi’i chynnal mae’r aelodau’n dweud y bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r henaduriaeth, cyn mae disgwyl iddo gael ei werthu gan ddod a degawdau o draddodiad i ben.