Gobaith ar y cae rygbi ar ôl blwyddyn 'ofnadwy' i deulu Cymreig yn America

ITV Cymru
Rygbi menywod

Mae Cymraes wedi cael ei dewis i chwarae rygbi i un o dimau gorau’r Unol Daleithiau ar ôl blwyddyn “ofnadwy” i’w theulu yn 2025.

Fe brofodd teulu Thomas nifer o anawsterau y llynedd, gan gynnwys strôc, dau bigwrn wedi’u torri, a damwain car.

Merch y teulu, Ariana, yw’r unig un sydd wedi osgoi profi salwch neu anffawd, gan wireddu breuddwyd o chwarae i un o dimau rygbi gorau’r Unol Daleithiau.

Mae hi nawr yn anelu at chwarae dros Gymru.

Anffawd

Yn 2015, symudodd Elfryn Thomas, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, a’i deulu o dalaith Wisconsin i ddinas Phoenix yn nhalaith Arizona.

Mae bywyd y teulu wedi bod yn ddigon bodlon yno am bron i ddegawd, yn rhedeg cwmni ceir teuluol, tan i Elfryn ddioddef strôc hemorrhagic — sef gwaed ar yr ymennydd — fis Mai eleni.

Yn ystod yr un cyfnod, fe dorrodd gwraig Elfryn, Tami, ei phigwrn. Yr wythnos wedyn, cafodd Rees, un o’r meibion, ddamwain car. Ac o fewn yr un mis, torrodd y mab arall, Gethin, ei bigwrn ac roedd angen llawdriniaeth arno.

“Ti’n methu ‘neud yr holl beth lan,” dywedodd Elfryn. “Mae ‘na ddyddiau pan dwi’n eistedd ac yn meddwl, ‘Be’ fi ‘di ‘neud i gael lwc mor wael?’

“Ni ddylai unrhyw deulu gael cymaint o anffawd â hyn. Pan mae un peth yn digwydd ar ôl y llall, mae’n effeithio arnoch chi’n emosiynol.”

 gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau mor ddrud, roedd rhaid i’r teulu godi arian i helpu gyda’r costau. Fe dderbynion nhw bron naw mil o ddoleri mewn rhoddion.

Dywedodd Elfryn: “Mae’n anhygoel sut mae pobl yn helpu yn ystod eich amser mewn angen.”

Image
UDA

Ariana ac Atlantis

Yn ystod cyfnod mor anodd i'r teulu, mae ariannu ei breuddwyd o chwarae rygbi wedi bod yn her i ferch Elfryn, Ariana.

Dechreuodd chwarae’r gêm yn ferch ifanc, â’i thad yn ei hyfforddi. Bellach, mae hi wedi cael ei dewis i chwarae i dîm rygbi saith-bob-ochr Atlantis.

Mae Atlantis yn annog ac yn datblygu rygbi yn yr Unol Daleithiau drwy chwarae mewn twrnameintiau domestig a rhyngwladol, ac mae’n rhaid cael gwahoddiad i fynychu treialon a chael eich dewis i’r tîm.

Maen nhw’n chwarae yn erbyn rhai o dimau gorau’r byd ac maen nhw wedi ennill pencampwriaethau ym mhob grŵp oedran.

Mae Ariana yn gobeithio chwarae yn broffesiynol yn y dyfodol, ac mae hi wedi derbyn cynigion gan golegau yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â chynigion yng Nghymru.

Mae hi bellach yn chwilio am noddwyr i’w helpu gyda’r costau.

“Gyda phopeth sy’ ‘di bod yn mynd ymlaen, mae’r costau o hedfan i’r treialon, talu i chwarae gyda’r tîm a theithio ym mhobman wedi bod yn anodd iawn,” meddai.

“Mae cael y cyfleoedd gorau i chwarae rygbi mewn llefydd gwahanol yn ofnadwy o ddrud. Mae gen i lawer o bobl yn fy mywyd sydd eisiau cefnogi fi ac sydd eisiau helpu fi gyda rygbi, sy’n beth da iawn.”

Image
Rygbi

Rygbi menywod

Mae nifer y merched a menywod sy’n chwarae rygbi yn America wedi dyblu bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf.

Mae Ariana yn dweud bod sêr fel Ilona Maher, sydd â mwy na wyth miliwn o ddilynwyr ar Instagram a TikTok, wedi cyfrannu’n fawr at y twf hwnnw. 

Mae Maher wedi ennill medal Olympaidd ac wedi cael ei henwi fel un o Fenywod y Flwyddyn cylchgrawn USA Today.

“Ers Maher, mae rygbi menywod wedi dod yn enfawr. Mae hi’n ysbrydoliaeth i fenywod ifanc,” dywedodd Elfryn, sy’n hyfforddi’r tîm ieuenctid lleol mae ei blant, Ariana a Gethin, yn chwarae iddo — y Scottsdale Wolves.

Mae Elfryn, Ariana a gweddill y teulu yn dychwelyd i Gymru mor aml ag sy’n bosibl. Maen nhw wrth eu bodd yn ymweld â theulu Elfryn yng Nghaerfyrddin ac yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad.

“Rydw i’n gobeithio dysgu mwy o Gymraeg," meddai Ariana. "Dw i ond wedi pigo lan geiriau drwg gan Dad!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.