Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma gipolwg ar rai o brif straeon bore dydd Llun 22 Tachwedd, o Gymru a thu hwnt.
Creu mwy o ganolfannau trochi'n y Gymraeg i wella cefnogaeth i ddysgwyr ifanc
Bydd wyth awdurdod lleol yng Nghymru yn creu canolfannau newydd i gefnogi dysgwyr sy’n ymuno ag addysg Gymraeg yn hwyrach. Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru hefyd yn cael mwy o arian i wella cefnogaeth wrth i’r galw gynyddu.
Pump wedi marw a dros 40 wedi eu hanafu ar ôl i gar yrru drwy barêd yn Wisconsin
Mae pump o bobl wedi marw a dros 40 wedi eu hanafu ar ôl i gerbyd yrru drwy barêd Nadolig yn nhalaith Wisconsin yn yr UDA. Fe darodd yr SUV coch ddwsinau o bobl yn ninas Waukesha, ychydig cyn 17:00 brynhawn Sul.
Buddugoliaeth i Gerwyn Price yn rownd derfynol y Grand Slam of Darts
Mae Gerwyn Price wedi ennill y Grand Slam of Darts wrth iddo oresgyn Peter Wright yn y rownd derfynol nos Sul. Taflodd Price yn gampus trwy gydol y gêm yn Wolverhampton i drechu Wright 16-8.
Cynllun i adeiladu archfarchnad newydd yn Aberteifi yn hollti'r gymuned
Mae dadlau wedi bod am safle ffordd y Bath House yn Aberteifi ers degawd a mwy. Mae’r cwmni TJ Morris o Lerpwl wedi gwneud cais i adeiladu siop Home Bargains ar y tir ger Theatr Mwldan.
Pleidleisio'n cau yn etholiad y Senedd Ieuenctid
Mae’r cyfnod pleidleisio ar gyfer etholiad Senedd Ieuenctid Cymru yn cau ddydd Llun. Dyma fydd yr ail Senedd Ieuenctid i gael ei hethol ers i Aelodau’r Senedd bleidleisio i greu Senedd yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2016.
Dilynwch yr holl benawdau diweddaraf ar Newyddion S4C drwy gydol y dydd.