Newyddion S4C

Creu mwy o ganolfannau trochi'n y Gymraeg i wella cefnogaeth i ddysgwyr ifanc

22/11/2021
Ysgol

Bydd wyth awdurdod lleol yng Nghymru yn creu canolfannau newydd i gefnogi dysgwyr sy’n ymuno ag addysg Gymraeg yn hwyrach.

Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru hefyd yn cael mwy o arian i wella cefnogaeth wrth i’r galw gynyddu.

Mae 'canolfannau trochi hwyr' yn cael eu creu ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Torfaen, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Powys, a Bro Morgannwg. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y canolfannau a’r arian ychwanegol yn helpu disgyblion sy’n ymuno ag addysg Gymraeg ar ôl saith oed, er enghraifft, ac yn sicrhau fod pob disgybl sydd eisoes yn derbyn addysg Gymraeg yn parhau gyda hynny.

Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi dysgwyr a allai fod wedi colli rhai o’u sgiliau iaith yn ystod y pandemig.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad gwerth £2.2m ym mis Medi ar gyfer y cynlluniau a fydd yn ceisio gwireddu nod y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae’r Gymraeg yn perthyn inni i gyd, a dw i wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni amcanion strategaeth ‘Cymraeg 2050’ ac i helpu mwy ohonom i ddysgu a defnyddio ein hiaith.

“Mae’r ceisiadau a ddaeth i law gan awdurdodau lleol ledled Cymru am gymorth trochi hwyr yn dangos gwir frwdfrydedd dros ehangu’r rhaglen hon,” ychwanegodd.

“Dw i wrth fy modd â’r ymrwymiad gwirioneddol ym mhob cwr o’r wlad i gefnogi ein dysgwyr i ymuno ag addysg Gymraeg, hyd yn oed os yw hynny’n digwydd yn ddiweddarach, a’u helpu i ddatblygu sgiliau byw dwyieithog.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.