Pump wedi marw a dros 40 wedi eu hanafu ar ôl i gar yrru drwy barêd yn Wisconsin
Pump wedi marw a dros 40 wedi eu hanafu ar ôl i gar yrru drwy barêd yn Wisconsin
Mae pump o bobl wedi marw a dros 40 wedi eu hanafu ar ôl i gerbyd yrru drwy barêd Nadolig yn nhalaith Wisconsin yn yr UDA.
Fe darodd yr SUV coch ddwsinau o bobl yn ninas Waukesha, ychydig cyn 17:00 brynhawn Sul.
Yn ôl Sky News, mae Darrell Brooks, 39, o Wisconsin wedi ei ddal yn y ddalfa mewn cysylltiad i’r digwyddiad.
Mae swyddogion yn ymchwilio’r posibilrwydd fod y gyrrwr yn gysylltiedig â digwyddiad cynharach gyda chyllell, ac yn ffoi pan gyrhaeddodd y car y parêd.
Cafodd 11 oedolyn a 12 plentyn eu cludo i’r ysbyty ar ôl cael eu taro, gyda sawl yn cludo eu hunain i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth ar gyfer eu hanafiadau.
Darllenwch y stori’n llawn yma.