Newyddion S4C

Cynllun i adeiladu archfarchnad newydd yn Aberteifi yn hollti'r gymuned

Newyddion S4C 22/11/2021

Cynllun i adeiladu archfarchnad newydd yn Aberteifi yn hollti'r gymuned

Mae dadlau wedi bod am safle ffordd y Bath House yn Aberteifi ers degawd a mwy.

Ond mae’n bosib fod dyfodol y safle ar fin cael ei benderfynu.

Mae’r cwmni TJ Morris o Lerpwl wedi gwneud cais i adeiladu siop Home Bargains ar y tir ger Theatr Mwldan.

Dywed y cwmni y bydd 100 o swyddi yn cael eu creu, gyda £6m yn cael ei fuddsoddi yn yr economi leol.

Ond, mae gan cyn Faer y dref bryderon am y cynlluniau.

Dywedodd y Cynghorydd Shan Williams wrth raglen Newyddion S4C: “Ma’ siopau i gael ‘ma yn barod yn gwerthu yn gywir un peth a ma’ Home Bargains yn golygu gwerthu.

“Ife Home Bargains yw’r peth gore i ddod fan hyn?  Sai’n gwbod.”

Serch hynny, nid yw pawb yn rhannu’r un farn.

Mae Cindy Rogers yn rheolwraig ar salon yn y dref ac mae hi’n cefnogi’r datblygiad.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Bydd e’n amazing i’r dre’ achos bydd e’n dod â pobl mewn i’r dre’ ac pobl i cael gwaith ‘fyd, a pethe bach yn chepach i’r dre’."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.