Newyddion S4C

Buddugoliaeth i Gerwyn Price yn rownd derfynol y Grand Slam of Darts

22/11/2021
gerwyn price

Mae Gerwyn Price wedi ennill y Grand Slam of Darts wrth iddo oresgyn Peter Wright yn y rownd derfynol nos Sul. 

Taflodd Price yn gampus trwy gydol y gêm yn Wolverhampton i drechu Wright 16-8. 

Dyma'r trydydd tro i'r chwaraewr o Goed Duon ennill y bencampwriaeth a'r ail dro iddo guro Wright mewn rownd derfynol. 

Mae'r canlyniad yn ychwanegu at flwyddyn lwyddiannus i ddartiau yng Nghymru yn dilyn buddugoliaeth Price ym mhencampwriaeth y PDC a llwyddiant Johnny Clayton yn y Masters.

Llun: Bradley Collyer/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.