Pleidleisio'n cau yn etholiad y Senedd Ieuenctid
Mae’r cyfnod pleidleisio ar gyfer etholiad Senedd Ieuenctid Cymru yn cau ddydd Llun.
Dyma fydd yr ail Senedd Ieuenctid i gael ei hethol ers i Aelodau’r Senedd bleidleisio i greu Senedd yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2016.
Fe fydd yr aelodau’n cael eu hethol am y ddwy flynedd nesaf.
Fe agorodd y cyfnod pleidleisio ar 1 Tachwedd ac fe fydd yn dod i ben am 12:00 brynhawn Llun.
Mae’n rhaid i bleidleiswyr fod wedi cofrestru o flaen llaw i bleidleisio yn yr etholiad.
Mae 40 o bobl ifanc yn cael eu hethol drwy ganlyniad yr etholiad ei hun ac fe fydd 20 aelod arall yn cael eu dewis i gynrychioli nifer o fudiadau ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys yr Urdd, Tŷ Hafan a Race Council Cymru.
Fe fydd aelodau’r Senedd Ieuenctid yn cyfarfod yn gyson o fewn eu rhanbarthau, yn ogystal â’r cyfarfodydd llawn.
Llun: Senedd Ieuenctid Cymru