
Cynnal cwestau i farwolaethau padl-fyrddwyr fu farw ar Afon Cleddau
Mae cwestau i farwolaethau pedwar padl-fyrddiwr fu farw mewn digwyddiad ar Afon Cleddau wedi eu hagor a'u gohirio ddydd Mawrth.
Bu farw tri o'r padl-fyrddwyr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar yr afon yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Sadwrn 30 Hydref.
Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd y cwestau i farwolaethau'r pedwar eu cynnal yn Neuadd y Dref Llanelli dan ofal y Crwner dros Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Yn dilyn y marwolaethau fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod menyw o dde Cymru wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd fel rhan o'r ymchwiliad i'r trychineb.
Cafodd y cwestau eu hagor a'u gohirio tan y bydd ymchwiliad yr heddlu wedi dirwyn i ben.