Cefnogaeth i’r syniad o fferi rhwng Abertawe a Lloegr

Marina Abertawe

Mae’r syniad o fferi rhwng Abertawe a de-orllewin Lloegr wedi ei gefnogi gan bron i bawb a ymatebodd i ymgynghoriad ar y pwnc, meddai Cyngor Abertawe.

Roedd y cyngor wedi comisiynu'r gwaith gan ddweud bod “cyfleoedd” i’r ddinas a’r ardal ehangach o gael cysylltiad uniongyrchol gyda’r rhanbarth yn Lloegr.

Roedd 98% o’r tua 4,400 o bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn cefnogi’r syniad o fferi gyflym ar draws Môr Hafren.

Mae cwmni Ocean Prime wedi datblygu achos busnes ar gyfer y fferi ond mae cwestiynau yn parhau ynglŷn â sut y byddai'n gweithio yn ymarferol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe eu bod nhw’n bwriadu symud ymlaen i ystyried “ymarferoldeb y cyfleoedd” sydd wedi eu nodi dros y misoedd nesaf.

“Dyma pam y mae Cyngor Abertawe wedi drafftio memorandwm dealltwriaeth [gydag Ocean Prime] yn ddiweddar iawn i alluogi’r gwaith hwn i ddatblygu ymhellach,” meddai.

“Mae Ocean Prime wedi cwrdd â nifer o arbenigwyr rhanbarthol eraill, gan gynnwys meistri harbwr, ers iddynt ddod yn rhan o’r prosiect yn 2023.

“Mae hyn wedi cynnwys sgyrsiau archwiliadol am wahanol agweddau gyda Chyngor Gogledd Dyfnaint, Cyngor Gwlad yr Haf, a Chyngor Torridge.

“Nawr ein bod wedi cynnal arolwg o’r galw yn ardal Abertawe, bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu rhwng Cyngor Abertawe, Ocean Prime, a chynghorau yn ne-orllewin Lloegr i ystyried y mater ymhellach.”

Wrth siarad â'r Gwasanaeth Democratiaeth Leol ym mis Ebrill y llynedd, dywedodd prif weithredwr Ocean Prime, Dave Sampson, ei bod hi'n ddyddiau cynnar iawn.

Serch hynny, roedd yn rhagweld llong tua 55m o hyd a fyddai'n cludo teithwyr, ceir, a rhywfaint o gargo ar gyflymder o hyd at 40 not.

O ran cyrchfannau ar y naill ochr a'r llall i Fôr Hafren, dywedodd: "Nid ydym yn diystyru unrhyw beth i mewn nac allan."

Dywedodd hefyd mai'r bwriad fyddai i'r gwasanaeth fferi weithredu cymaint â phosibl yn hytrach na dim ond yn ystod misoedd yr haf.

Yn 2010, methodd cynllun ar gyfer fferi a fyddai'n cysylltu Abertawe ac Ilfracombe yng ngogledd Dyfnaint, o'r enw Severnlink, oherwydd anawsterau ariannu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.