'Hunllefus': Pryderon am ddiffyg graeanu ar ffyrdd gwledig adeg tywydd gaeafol
Mae cwmnïoedd trafnidiaeth wedi codi pryderon am ddiffyg graeanu ar ffyrdd gwledig yng ngorllewin Cymru.
Ar ôl rhybuddion melyn am eira dros yr wythnos diwethaf, mae Newyddion S4C wedi clywed pryderon gan rai sydd yn gweld y sefyllfa mewn ardaloedd gwledig yn "beryglus".
Yn ôl un perchennog cwmni bysiau, mae'r sefyllfa yn un "danjerus" ac yn dweud bod "angen sylw ar hewlydd bach."
Ychwanegodd gyrrwr tacsi eu bod nhw yn "colli arian pan nad yw ysgolion ar agor a ddim yn derbyn iawndal" a bod cyflwr rhai ffyrdd wedi bod yn "beryg bywyd."
Mae rhai yng nghymuned Llanfair Clydogau, ar gyrion tref Llanbedr Pont Steffan yn pryderu am ddiffyg graenu a bocsys graen pan ddaw tywydd gaeafol.
Yn ôl un sydd yn byw yn ne Ceredigion ar y ffin â Sir Gâr, mae “tipyn o focsys grit ond cwestiwn arall yw hi os bod grit ynddyn nhw.”
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Helen Lloyd, sydd yn rhedeg cwmni tacsis Fastline o bentref Llanybydder, "ma' diffyg gritto' yn golygu bod ni ffili 'neud school runs a felly ni'n colli arian."
"Dydy'r cyngor ddim yn talu ni os bod ysgolion ar gau achos eira, ma fe'n 'god's will' ond ma dal angen i ni fod ar standby os ydy ysgolion yn agor," meddai.
"Hyd yn oed cwsmeriaid day-to-day ni, dydd Llun a Mawrth, odd hi'n rhy deadly i drio mynd atyn nhw a'r pobl hŷn 'na sydd yn byw i ffwrdd o'r prif hewlydd sydd angen ni.
"Odd hi'n ddigon caled i gyrraedd y brif ffordd ddoe ac oedd y palmentydd yn horrendously slic, odd e'n danjerus i bobl oedd yn mynd mas achos dydyn nhw ddim yn gritto."
Mae Rhydian Thomas yn rhedeg cwmni bysiau Windy Corner Coaches yn Sir Gâr ac yn gwasanaethu ar draws y sir.
“Dydyn nhw ddim yn gritto' hanner digon a bod yn onest," meddai.
"Ma’ angen mwy o sylw ar yr hewlydd bach.”
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd mai’r her fwyaf iddo yn ystod tywydd gaeafol yw cael gyrwyr o’u cartrefi i’r cerbydau.
“Ma’ drivers yn byw yn bach o bobman, os nagyw hewlydd ma nhw’n byw arno yn cael eu gritto, allai ddim cal drivers i yrru’r cerbydau.”
Gyda fflyd o 14 bws a thacsi, mae’r cwmni yn gyfrifol am drafnidiaeth ysgol mewn 10 ardal yn Sir Gâr, ac mae Rhydian yn dweud fod yr “ardal eang yn golygu fod challenges gwahanol i bob route".
“Ma’ bobl ar lawr gwlad yn nabod eu hardal a sut ma’r tywydd yn effeithio, dyw pobol yn office y cyngor ddim yn gwybod," meddai.
"Dwi’n deall fod arian yn brin ond mae angen man canol gwell.”
Mae Aerwen Griffiths yn byw ym mhentref Llanfair Clydogau. Dydy’r ffordd uniongyrchol i’r pentref o dref Llanbed, ffordd Llanfair, ddim yn cael ei graeanu.
“Buodd e’n danjerus iawn am 3-4 diwrnod a phan odd rhaid i ni deithio, lwcus bod neb wedi dod i gwrdd â ni."
“S’dim bocsys grit gyda ni - dyle rhai bod ar yr heol a’r sawl riw sydd ar y ffordd er mwyn i bobl allu rhoi grit lawr” meddai wrth Newyddion S4C.
“Ma hewlydd eraill yn cael e [graen] a ni ddim yn cael dim, ond ni’n talu’r un trethi.”
Mae Rhys ap Tegwyn yn yrrwr lorïau o dde Ceredigion ac yn sôn am ffordd sydd yn cysylltu Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi.
“Mae’r hewl yn B-road ond does dim halen er ei bod yn brysur – dim hewl fach yw hi, mae’n fishi ond dyw hi ddim yn cael ei thrîn.”
Ychwanegodd fod “dim digon o focsys grit ar yr hewl sydd tua 7 i 8 milltir o hyd.”
“Fi’n deall nagyn nhw [y cyngor] yn gallu gritto bob hewl ond ma hon yn hewl sydd yn cael defnydd felly dyle fe gal rhywbeth.
“Roedd trio gyrru ar y ffyrdd ddydd Llun a Mawrth yn hunllefus” meddai.
“Mae gyrru ar ffyrdd Ceredigion gyda rhew yn beryg bywyd – ti ddim yn gweld e pan nad yw e’n cal halen."
Dywedodd fod pobl yn “dibynnu ar y gymuned leol a’r ffermwyr adeg tywydd rhew ac eira.”
Ymateb yr awdurdodau lleol
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dilyn Cynllun Gwasanaeth Gaeaf strwythuredig er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd tra’n blaenoriaethu adnoddau’n effeithiol.”
Ychwanegodd fod y “cynllun hwn yn nodi’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa lwybrau sy’n cael eu trin, gan ystyried ffactorau megis dosbarthiad ffyrdd, cyfaint traffig, a mynediad at wasanaethau hanfodol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr: “Ein blaenoriaeth ar gyfer graeanu rhagofalus ac adweithiol heno a dros nos fydd ein 11 Prif Ffyrdd Sirol ynghyd â 4 Llwybr Cefnffyrdd.
"Yn amodol ar amodau sy'n dod i'r amlwg, byddwn yn anelu at drin Llwybrau Eilaidd yfory yn ystod oriau dydd, yn amodol ar argaeledd adnoddau.”
Ychwanegodd mai “ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithredu'n ddiogel i hwyluso gwasanaethau hanfodol, darparu iechyd a gofal cymdeithasol ac amddiffyn preswylwyr agored i niwed."
