Storm Goretti: Rhybudd am rew a rhai cartrefi'n parhau heb drydan

Storm Goretti: Rhybudd am rew a rhai cartrefi'n parhau heb drydan

Cafodd dros 150 o ysgolion eu cau a channoedd o gartrefi eu gadael heb drydan wrth i Storm Goretti daro’r wlad ddydd Gwener.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd pellach am rew i rannau helaeth o Gymru, heblaw am Ynys Môn a Sir Benfro, o 12.00 ddydd Gwener i 12.00 ddydd Sadwrn.

Roedd eira trwm wedi bod yn syrthio dros nos mewn rhannau o Gymru, ond roedd wedi troi’n law ac eirlaw mewn sawl ardal yn ystod y bore. 

Cafodd dros 70 o ysgolion eu cau ym Mhowys ddydd Gwener, dros 20 ym Mlaenau Gwent, a dros 30 yn Wrecsam, o ganlyniad i’r tywydd garw. 

Roedd rhai ysgolion ar gau yng Ngwynedd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, a Merthyr Tudful yn sgil y storm.

Roedd dros 600 o gartrefi heb drydan ar un cyfnod fore Gwener meddai'r Grid Cenedlaethol, gyda 200 o'r rheini yn ardal tref Llandysul yng Ngheredigion.

Erbyn prynhawn Gwener, roedd cyflenwadau trydan wedi eu hadfer i'r mwyafrif o dai. Roedd disgwyl i gyflenwadau gael eu hadfer mewn cymunedau yn ardaloedd Castell-Newydd Emlyn, Tŷ Ddewi, Llanelli a Llandrindod yn ystod y prynhawn.

'Amodau peryglus'

Fe gofnododd y Swyddfa Dywydd storm fellt a tharanau, a elwir yn thundersnow yn Saesneg, yn Sir Benfro nos Iau.

Roedd rhybudd oren am eira a thri rhybudd melyn mewn grym mewn rhannau o Gymru nos Iau a fore Gwener oherwydd y storm, gan gynnwys un am eira, un am law, ac un am wynt.

Nos Iau fe wnaeth Cyngor Sir Powys, Cyngor Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Wrecsam annog pobl i beidio â theithio oni bai ei fod yn “hollol angenrheidiol.” Fe gafodd sawl ffordd yn y cymoedd eu cau oherwydd yr amodau hefyd.

Dywedodd Cyngor Powys fod yr eira wedi creu amodau gyrru anodd “drwy’r sir gyfan” a bod sawl digwyddiad wedi bod ar ffyrdd y sir.

Image
Eira
Pobl yn mwynhau'r eira ym Mannau Brycheiniog (Llun: PA)

Roedd yr amodau peryglus wedi achosi gwrthdrawiadau rhwng ceir a lorïau yn ogystal ag oedi ar y ffyrdd, medden nhw.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi dweud na fydd nifer o'u gwasanaethau yn rhedeg ddydd Gwener oherwydd y tywydd.

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis hefyd wedi rhybuddio am eirlithradau lleol posibl ar Yr Wyddfa, yng Ngwynedd.

Paratoadau

Cafodd y storm ei henwi'n Storm Goretti gan Meteo France.

Fe ddaeth y rhybuddion tywydd i rym ddydd Iau, gyda’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai hyd at 20-30cm o eira syrthio mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. 

Mae’r gwasanaethau cyhoeddus a nifer o gynghorau lleol wedi bod yn paratoi am y tywydd gaeafol ers i’r rhybuddion gael eu cyhoeddi.

Fe ddywedodd Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru y bydd "newidiadau i'r gwasanaeth" ddydd Iau yn golygu y gallai rhannau o’r rhwydwaith rheilffyrdd barhau ar gau bore Gwener. 

Mae Cyngor Ceredigion eisoes wedi rhybuddio y gallai’r storm arwain at "amodau teithio peryglus ac amhariadau i wasanaethau".

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin ddydd Iau fod paratoadau ar gyfer tywydd garw ar waith: "Bydd criwiau cynnal a chadw'r gaeaf wrth gefn drwy gydol y digwyddiad i ymateb i amodau sy'n newid."

Ac fe ddywedodd Cyngor Gwynedd bod swyddogion “wedi bod yn gweithio rownd y cloc i raeanu rhwydwaith o brif ffyrdd y sir ac i gadw’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau’n ddiogel.” 

Llun gan PA / Claire Hayhurst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.