Ymestyn cytundeb Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru tan 2030

Noel Mooney / CBD Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi ymestyn cytundeb y Prif Weithredwr Noel Mooney tan 2030. 

Fe ymunodd Mooney â'r Gymdeithas o UEFA yn 2021, gan lansio strategaeth newydd Ein Cymru yn ei dri mis cyntaf yn y swydd. 

Mae cyfnod Mooney fel prif weithredwr wedi cynnwys penodi Craig Bellamy yn rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol y dynion, a Rhian Wilkinson yn rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol y menywod.

Ar lawr gwlad, mae'r Cymru Football Foundation wedi cael ei sefydlu ac wedi darparu bron i £30 miliwn mewn cyfleusterau llawr gwlad ar draws Cymru.

Wrth siarad am ei estyniad, dywedodd Mooney: "Rydym ni ar daith anhygoel, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni a phêl-droed Cymru yn fwy cyffredinol. 

"Roeddem ni'n hyderus y byddem ni'n gallu adeiladu sefydliad chwaraeon arbennig, ac rydym ni eisoes wedi cyflawni cymaint mewn cyfnod weddol fyr. 

"Ond mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau ein bod ni yn gymdeithas bêl-droed o safon fyd-eang yr ydym ni eisiau bod ac sydd yn rhaid i ni fod, ac rydym ni'n benderfynol i gyflawni hyn yn llawn cyn i mi basio'r baton ymlaen i'r arweinydd nesaf."

Ychwanegodd Mooney: "Mae gennym ni'r ysbryd 'Gyda'n Gilydd yn Gryfach' rhwng y Bwrdd, y Cyngor a'r staff gyda ffocws ar wasanaethu y fyddin o wirfoddolwyr, clybiau a rhanddeiliaid sydd gennym ni.

"Rydym ni'n credu y gall pêl-droed chwarae rhan gynyddol yn hyder, llwyddiant a chynhwysiant Cymru ac rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar gyrraedd ein potensial llawn yn y blynyddoedd i ddod."

Strategaeth

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru Mike Jones: "Mae Noel wedi dod â lefel newydd o uchelgais a chydweithio i bêl-droed yng Nghymru, gan ein galluogi ni i dyfu ar bob lefel. 

"Mae Noel yn poeni'n fawr am bob clwb, cynghrair ac ardal yng Nghymru, ac rydym ni'n gweld hyn bob dydd yn y ffordd y mae'n arwain y sefydliad."

Dywedodd y Gymdeithas hefyd y byddai'n lansio strategaeth 10 mlynedd newydd eleni wrth iddi ddathlu ei phenblwydd yn 150 oed. 

Fe fydd y strategaeth yma wedi ei hanelu tuag at "gryfhau pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru."

Fe fydd tîm cenedlaethol y dynion yn wynebu Bosnia a Hertsegofina yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2026 ym mis Mawrth.

Os ydyn nhw'n fuddugol,  fe fyddent yn wynebu enillwyr gêm rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon, gyda Chymru yn eu herio mewn gêm gartref yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Fe fydd gan dîm y menywod dair gêm yn ystod chwe mis cyntaf 2026 yn yr ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd y Menywod yn 2027, gan gynnwys ym Mharc y Scarlets ym mis Mawrth, y Cae Ras ym mis Ebrill a Stadiwm Dinas Caerdydd ym Mehefin.

Llun: CBD Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.